Crefydd a chred (Glanmor Williams)
Para 4.1
Roedd bywyd yn ddigon caled ac ansicr i’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru ar ddechrau'r unfed ganrif ar bymtheg. Gan ennill bywoliaeth drwy lafur diarbed mewn ffermio bugeiliol tlawd, roeddent yn sicr ar drugaredd yr hinsawdd, pridd amharod yr ucheldir, ac achosion niferus ac aml o glefydau a allai eu cystuddio hwy a'u da byw. Ond roedd eu crefydd yn eu dysgu eu bod yn gallu sicrhau amddiffyniad yn erbyn y cythreuliaid a’r ysbrydion drwg yr oeddent yn credu oedd o’u cwmpas a gwneud eu heddwch â Duw drwy ei Eglwys a'i gweinidogion yn unig, neu fel arall byddai eu bywyd yn y byd a ddaw yn anfeidrol waeth ac yn fwy poenus nag yn y byd hwn. Byddai pechaduriaid a gondemniwyd yn canfod y byddai eu bodolaeth ar ôl y Farn Derfynol yn dragwyddoldeb o artaith annisgrifiadwy yn Uffern. Nid yw’n syndod, felly, mai eu prif bryder oedd ceisio dod o hyd i rywfaint o ddiogelwch iddynt eu hunain yn erbyn arswyd y byd a ddaw drwy gyfrwng cymwynasgarwch offeiriaid a seintiau, pererindodau a chreirfâu, penyd a phardwn. (4A) [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]
Rhagair (Matthew Griffiths)