Para 4.8
Nid yw'n syndod, felly, nad oedd y rhan fwyaf o'r Cymry yn poeni’n ormodol am ddychwelyd i'r gorlan Rufeinig gyfarwydd yn ystod teyrnasiad Catholig Mari I (1553-1558). Mae rhai o'r beirdd yn awgrymu bod y bobl yn falch o weld yr offeren yn cael ei hadfer a'r allorau yn cael eu sefydlu o'r newydd (4L) [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Mae’n wir fod cynnwrf ymhlith yr offeiriadaeth - collodd nifer ohonynt eu bywoliaeth am briodi ac ychydig am heresi. Ond dim ond tri merthyr yn sgil heresi a gafwyd ledled Cymru (4M), sy'n rhoi syniad o ba mor fychan oedd y gefnogaeth i Brotestaniaeth, er na ddylid gor-bwysleisio hyn, gan mai dim ond un merthyr a gafwyd yn holl siroedd Lloegr i'r gorllewin o Gaersallog. Ni ddylid meddwl chwaith mai troi’r cloc yn ôl i 1529 a ddigwyddodd. Roedd gormod wedi digwydd yn y cyfamser, a mynnodd yr uchelwyr gadw'r enillion roeddent wedi eu gwneud yn sgil eiddo’r eglwys. Nid oedd priodas Mari â Philip o Sbaen a'i rhyfel yn erbyn Ffrainc yn gamau poblogaidd; ac ychwanegodd cynaeafau gwael ac epidemig ffliw dinistriol at amhoblogrwydd ei chyfundrefn. Hyd yn oed ymhlith y Cymry roedd llond llaw o bobl frwd dros Brotestaniaeth; graddedigion ifanc o Rydychen yn bennaf a gafodd dröedigaeth yn y brifysgol, neu ffigurau amlwg mewn trefi fel Caerfyrddin. Fe wnaeth y rhan fwyaf ohonynt benderfynu’n ddoeth i gadw’n dawel yn ystod teyrnasiad Mari, fel y gwnaeth William Salesbury, tra bod tua hanner dwsin, gan gynnwys Richard Davies, a ddeuai’n esgob yn ddiweddarach, wedi ffoi i ddinasoedd Protestannaidd ar y Cyfandir. Ymhlith Pabyddion pybyr a gefnogai Mari, roedd rhai o'r goreuon, fel Thomas Goldwell, esgob Llanelwy, a Morus Clynnog a Gruffudd Robert, yn awyddus i adfywio'r Eglwys Rufeinig drwy gyflwyno delfrydau diwygiadau Catholig i Gymru (4N). Wrth wneud hynny, fe wnaethant osod y sylfeini ar gyfer gwrthwynebiad Catholig i Elisabeth I yn dilyn hynny. Pe bai teyrnasiad Mari wedi para deg neu bymtheg mlynedd arall, efallai y byddent wedi gwneud Cymru yn wlad ddefosiynol Gatholig.