Ffynh 4X

Felly, yr un modd y rhai y sy’n ddyfal ymdreiglo yn yr Ysgrythur lan sy yn dywedyd hwythau mai gorau ffydd yw’r ffydd hen, sef yr un y proffwydodd y proffwydi ohoni, yr hon a ddysgodd Crist a’i Apostolion i’r bobl yn eu hamser, a’r hon wedyn a gadarnhaodd y Merthyron a’u gwaed, gan dystio gyda hi a dioddef pob artaith hyd angau. Ac am hynny gwae’r neb a eilw hon yn newydd, o ba fodd bynnag y gwnel, ai o anwybod ai trwy wybod, i’w dwyllo’i hun ac i hudo’r bobl. At y ffydd hon yn ei Epistol yma uchod y mae’r anrhydeddus Dad, R.D., ail Dewi Mynyw, yn ceisio’ch gwahodd, eich llwybro a’ch arwain oll am yr enaid.

(So, in the same way those who are deeply learned in Holy Scriptures also say that the best faith is the old faith, namely the one of which the prophets prophesied, the one which Christ and his Apostles taught the people in their time, and the one which the Martyrs later confirmed with their blood, sealing their testimony to it with every torture even to death. And for that reason, woe unto him who calls this new, whysoever he does so, whether from ignorance or consciously to deceive himself and to seduce the people. It is to this faith, in his Epistle above, that the honourable Father, Richard Davies, second Dewi of St David’s, seeks to invite, direct and lead you all for your souls’ sake.)

(William Salesbury, Introduction to the New Testament, 1567 in G.H. Hughes, Rhagymadroddion, 1951, p. 44 [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] )