Para 5.11

Mae’r cwestiwn pwy symudodd yn codi mater arall, sydd efallai’n fwy diddorol. Mae rhagdybiaeth gyffredinol, gref fod siroedd gwledig wedi colli’r rhai mwyaf galluog, egnïol a gweithgar o blith eu poblogaeth. Ond a yw hynny’n wir? Mae hwn yn gwestiwn anodd. Mae’r dybiaeth mai’r goreuon a fyddai wedi symud yn seiliedig ar y farn mai dim ond y rhai mwyaf galluog a fyddai wedi sylwi ar y cyfleoedd a oedd ar gael mewn ardaloedd eraill, ac wedi eu ceisio (5E [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ). Eto i gyd, ni ddylid cymryd yn ganiataol mai’r rhai mwyaf galluog a gollwyd. Mae hefyd yn debygol, efallai, yr un mor debygol, dadlau mai dim ond y goreuon a fyddai’n dod yn berchen ar ffermydd a sicrhau eu bod yn broffidiol mewn amgylchedd cystadleuol iawn lle’r oedd nifer y ffermydd yn prinhau: byddai’r gweddill wedi eu gorfodi i adael. Yn aml y rhai lleiaf llwyddiannus mewn amgylchedd penodol yw’r rhai sy’n cael eu gorfodi i adael a dylai hyn o leiaf gwestiynu’r rhagdybiaeth fod yr ardaloedd amaethyddol wedi colli eu pobl fwyaf galluog. Wrth gwrs, yr hyn sy’n wir yw bod y mudwyr yn tueddu i fod wedi canoli yn y grwpiau oedran iau. Yn wir, mae hyn ynddo’i hun yn un rheswm am y dybiaeth gyffredinol fod yr ardaloedd amaethyddol wedi colli eu pobl fwyaf galluog: yng nghyd-destun y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd yn eithaf rhesymol drysu rhwng y cryfaf a’r gorau.