Para 5.14
Er hynny, mae’n ymddangos na arweiniodd y patrwm o symud o’r tir at gefnu ar fywyd gwledig. Yn wir, yn ôl yr adroddiad ar amaethyddiaeth Cymru i’r Comisiwn Brenhinol ar Lafur roedd galw am dir gan fod cystadleuaeth gref am ffermydd a ddeuai yn wag. Nid cystadleuaeth gynyddol (roedd y cynnydd naturiol - mwy o enedigaethau na marwolaethau - yn dal yn gadarnhaol) oedd y broblem, ond yn hytrach teimlai nifer nad oedd eu huchelgais o gael fferm yn debygol o gael ei gwireddu. Felly roedd yn ymddangos bod llai o gyfleoedd yn codi mewn nifer o ardaloedd gwledig a oedd yn golygu bod posibiliadau mewn mannau eraill yn ymddangos yn fwy apelgar. Fodd bynnag, nid mater o ystyriaethau economaidd yn unig oedd hyn. Gallai’r hyn a ymddangosai i rai fel cyfyngiadau bywyd gwledig helpu i berswadio pobl i symud, tra bod eraill yn ystyried bod yr un nodweddion yn creu cymuned gartrefol a fyddai’n helpu i’w clymu i ardal. Yn yr un modd, dim ond manteision a welai rhai yn y trefi, tra gwelai eraill beryglon (5K [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ). Yn sicr roedd y ffactorau anghyffwrdd hyn yn dylanwadu’n gryf, er bod eu heffaith, p’un ai a oeddent yn denu neu’n cadw pobl draw, yn dibynnu ar ganfyddiadau unigol. Ac efallai ei bod yn bosibl cael y gorau o ddau fyd, neu geisio hynny. Mae astudiaeth fanwl o Ferthyr yn 1851 yn dangos tuedd gref i ymfudwyr o wahanol rannau o Gymru fyw yn eu hardaloedd penodol eu hunain o fewn y dref.2 Os oedd pobl, am ba reswm bynnag, yn symud o’r tir, i ble oeddent yn mynd? Genhedlaeth yn ôl, yr argraff a roddid mewn testunau ar hanes y cyfnod hwn oedd bod y bobl a symudodd o gefn gwlad Cymru wedi mynd o Gymru (5Li, 5Lii). Roedd yn awgrym digon naturiol gan mai’r llif o ymsefydlwyr tramor oedd y grŵp amlycaf. Gan eu bod yn gadael y wlad am byth, roedd eu hymadawiad yn cael mwy o effaith, a’u llythyrau gartref yn fwy tebygol o gael eu hargraffu yn y wasg leol. Roedd enghreifftiau dramatig yn nodweddu’r duedd hon, fel y penderfyniad bwriadol i fudo i Batagonia i sefydlu’r wladfa yn 1860au, neu i Philadelphia yn y 1890au (er nad cefnu ar amaethu oedd y symud i Philadelphia, ond yn hytrach ymateb gweithwyr tunplat Llanelli i dariff McKinley). Aeth y rhai llai mentrus i Loegr a chreodd y rheini hyd yn oed gymunedau Cymraeg amlwg mewn nifer o brif drefi Lloegr (5M). Mae’r patrwm hwn o symud o Gymru wedi ei gwestiynu’n sylweddol iawn gan lawer o waith ystadegol manwl, yn arbennig gan Brinley Thomas.3
Para 5.13