Para 5.21

Heb amheuaeth mae dadleuon a thystiolaeth Brinley Thomas wedi newid y ddadl am y berthynas rhwng diwydiannu a diwylliant Cymru’n barhaol: ni ellir eu diystyru fel ‘ystadegau’n unig’. Yn yr un modd mae rhai anawsterau amlwg yn perthyn i’r ddadl. Hyd yn oed yn y cyfrifiadau cynharaf o’r iaith (1891, 1901, 1911) mae’n eglur bod y rhaniad rhwng ardaloedd lle ceid canran uchel ac isel o siaradwyr Cymraeg yn gymaint o ffenomen gorllewin/dwyrain o leiaf ag o ffenomen wledig/diwydiannol.9 Yr hyn sy’n fwy arwyddocaol yw goblygiadau’r mewnlifiad i feysydd glo de Cymru yn arbennig rhwng 1901 a 1911. Cyn hyn y sefyllfa arferol oedd bod y gostyngiad net yn sgil mudo o ardaloedd gwledig Cymru’n uwch na’r cynnydd net mewn ardaloedd trefol a meysydd glo. O safbwynt yr iaith a diwylliant, tra bod rhai wastad yn symud i Loegr neu dramor, roedd hyn yn golygu bod y rhan fwyaf o gynnydd naturiol Cymru’n aros yng Nghymru; roedd hefyd yn golygu, tra bod mewnlifiad cyson o Loegr, fod y nifer a fudai o wledydd eraill i ardaloedd diwydiannol de Cymru’n gymharol fach, a ph’un bynnag, roedd yn tueddu i ganoli ym mhorthladdoedd a threfi ar hyd arfordir dwyrain Cymru. Roedd pob un o’r nodweddion hyn yn golygu ei bod yn bosibl derbyn a chymhathu’r elfen ddi-Gymraeg, yn arbennig yng nghymoedd Morgannwg. Ac, i ryw raddau, mae’n ymddangos bod hyn wedi digwydd. Ond yn y degawd rhwng 1901 a 1911 newidiodd y sefyllfa’n ddirfawr. Roedd graddfa’r mewnlifiad i Sir Fynwy a Sir Forgannwg (bron i 130,000) yn uwch o lawer na’r gostyngiad net o ardaloedd gwledig Cymru. O un safbwynt mae hyn yn cadarnhau’r farn fod y datblygiad diwydiannol wedi cryfhau’r iaith: gallai’r holl symudiadau o’r tir fod wedi cael eu derbyn (sawl gwaith drosodd) gan yr ehangu diwydiannol.