Mynd i'r prif gynnwys
Printable page generated Friday, 2 June 2023, 2:26 AM
Use 'Print preview' to check the number of pages and printer settings.
Print functionality varies between browsers.
Unless otherwise stated, copyright © 2023 The Open University, all rights reserved.
Printable page generated Friday, 2 June 2023, 2:26 AM

Uned 6   Bywydau merched yng Nghymru rhwng y ddau ryfel byd

Rhagair (Bill Jones)

Cyhoeddwyd traethawd yr Athro Deirdre Beddoe ‘Women between the wars’ yn gyntaf yn Wales Between the Wars, cyfrol yng nghyfres ‘Welsh History and its Sources’. Nid yw pob cyfrol yn y gyfres yn cynnwys pennod benodol ar ferched, er bod rhai o’r penodau sydd ar themâu eraill yn cynnwys cyfeiriadau achlysurol at brofiadau merched mewn gwahanol gyfnodau o hanes Cymru. Mae traethawd Beddoe yn cynnig her uniongyrchol i haneswyr yng Nghymru trwy bwysleisio cyn lleied o sylw a roddwyd i fywydau a gweithgareddau merched yn y gorffennol yng Nghymru. Mae’r ffaith bod y gyfrol Wales Between the Wars wedi neilltuo traethawd cyfan i fywydau merched yng Nghymru yn y blynyddoedd hynny’n dangos bod hanes merched yn cael ei ystyried fel pwnc cynyddol bwysig wrth ysgrifennu am hanes yn y Gymraeg, ac addysgu ar bwnc hanes Cymru.

Ychydig o haneswyr sydd wedi gwneud mwy na Deirdre Beddoe i hyrwyddo achos hanes merched trwy ysgrifennu amdano, ei hyrwyddo a’i boblogeiddio trwy ddarlithoedd a darllediadau. Cyhoeddodd draethawd arloesol yng nghyfnodolyn hanesyddol Llafur Cymdeithas Hanes Pobl Cymru yn 1981 dan y teitl ‘Towards a Welshwomen’s History’ ar adeg pan oedd unrhyw astudiaeth o’r pwnc yn brin. Mae Deirdre Beddoe yn Athro Emeritws ar Astudiaethau Merched ym Mhrifysgol Morgannwg. Mae’n un o’r awdurdodau mwyaf blaenllaw ar y pwnc. Dros y blynyddoedd mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau ar ferched Cymru a hanes merched ym Mhrydain yn gyffredinol. Mae’r rhain yn cynnwys Welsh Convict Women (1979), Discovering Women’s History: A Practical Manual (1983), Back to Home and Duty: Women Between the Wars 1918-1939 (1989), Parachutes and Petticoats: Welsh Women Writing on the Second World War (1992), Out of the Shadows: A History of Women in Twentieth-Century Wales (2000) a Changing Times: Welsh Women Writing on the 1950s and 1960s (2003).

Wrth ddarllen unrhyw destunau sydd wedi eu hysgrifennu ar hanes Cymru mae bob amser yn ddefnyddiol gwybod rhywbeth am yr hanesydd a’r hyn sydd wedi dylanwadu arno neu arni. Ganed Beddoe yn y Barri yn Ne Cymru yn 1942. Yn y Cyflwyniad i’w llyfr Out of the Shadows dywed mai hi oedd y person cyntaf yn ei theulu i fynd i brifysgol ac fel y bu i hanesion ei mam a’i nain ei hysbrydoli i ysgrifennu am hanes merched yng Nghymru. Dylanwad mawr arall arni fu’r mudiad ffeminyddol ar ddiwedd y 1960au, a ymgyrchodd dros hawliau cyfartal i ferched o bob cefndir. Hefyd bu’r mudiad yn gyfrwng i symbylu nifer o astudiaethau llawer ehangach ar brofiadau merched mewn pynciau fel llenyddiaeth, hanes a chymdeithaseg ac arweiniodd at sefydlu astudiaethau merched fel disgyblaeth academaidd. Fel yr ysgrifennodd yn ei Chyflwyniad i Out of the Shadows: ‘It would havebeen impossible to have written this book without the women’s movement: women’s history and women’s studies are a direct product of that movement’ (Beddoe, 2000, tud.4).

Efallai y bydd angen esboniad pellach o rai o’r cyfeiriadau yn nhraethawd Beddoe i helpu darllenwyr i ddeall y traethawd yn llawnach. Yn sgil Deddf (Dileu) Anghymwyseddau Rhyw 1919 (paragraff 6.2) daeth yn anghyfreithlon gwahardd merched ar sail eu rhyw’n unig. Ond yn aml anwybyddwyd y Ddeddf ac ar ben hynny câi merched eu gwahardd rhag gweithio mewn rhai swyddi ar ôl priodi - e.e. atal merched priod rhag bod yn athrawon (a grybwyllir ym mharagraff 6.7). Marie Stopes (paragraff 6.10) oedd yr ymgyrchwraig fwyaf blaenllaw dros hyrwyddo dulliau atal cenhedlu yn yr ugeinfed ganrif. Yn 1921 sefydlodd y clinig cyntaf i gynnig dulliau atal cenhedlu yn y Deyrnas Unedig. Gorymdeithiau newyn (paragraff 6.12) o Dde Cymru, gan amlaf i Lundain, oedd un o’r mathau mwyaf poblogaidd o wrthdystio yn erbyn y cyfraddau uchel o ddiweithdra yn y rhan fwyaf o Gymru yn y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel a’r amddifadedd a’r trallod a ddeuai yn ei sgil. Trefnwyd y gorymdeithiau hyn gan ymgyrchwyr mewn rhannau diwydiannol eraill o Brydain lle’r oedd caledi mawr, efallai mai’r fwyaf adnabyddus yw Gorymdaith Jarrow o ogledd-ddwyrain Lloegr i Lundain yn 1936.

Er bod traethawd Beddoe wedi ei gyhoeddi yn 1988, mae’n dal yn enghraifft ffres a bywiog o astudiaeth hanesyddol. Ynddo pwysleisir na all hanes Cymru fod yn gyflawn os yw’n diystyru bywydau merched yn y gorffennol. Yn wir, mae hyn yr un mor berthnasol heddiw ag yr oedd bryd hynny. Mae llawer mwy wedi ei ysgrifennu ar amrywiaeth fawr o agweddau ar fywydau merched yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel a chyfnodau eraill o hanes Cymru ers i’r traethawd hwn ymddangos gyntaf. Roedd cyhoeddi Out of the Shadows Beddoe yn un o’r cerrig milltir pwysig yn hanesyddiaeth Cymru. Cyfrol bwysig arall a gyhoeddwyd yn 1991 yw Our Mothers’ Land: Chapters in Welsh Women’s History, 1830-1939, a olygwyd gan yr Athro Angela V. John, hanesydd arloesol arall ar hanes merched a hanes y ddau ryw ym Mhrydain ac un o’r awdurdodau mwyaf blaenllaw yn y maes hwn. Yn y gyfrol hon ceir fersiwn arall o draethawd Beddoe yn ogystal â’r un gan Dot Jones o dan y teitl ‘Counting the cost of coal’ sy’n sôn yn fanylach am brofiadau merched yn y cartref yn ardaloedd glofaol De Cymru yn y 1920au a’r 1930au. Credaf y gellir dod i’r casgliad fod hanes merched yng Nghymru wedi datblygu’n sylweddol ers diwedd yr 1980au. A yw hanes merched Cymru wedi ei gynnwys yn llawn yn y prif ddehongliadau o hanes Cymru, ynteu ai persbectif atodol ydyw? Mae hwn yn bwynt llawer mwy dadleuol.

Merched rhwng y rhyfeloedd (Deirdre Beddoe)

Para 6.1

Mae hanes merched yng Nghymru eto i’w ysgrifennu. Gwnaed astudiaethau hanesyddol Cymru o fewn traddodiad hanesyddol a ddiystyrai ferched - ar sail nad oedd gweithredoedd a bywydau merched yn bwysig wrth groniclo datblygiad Hanes ac am fod bywydau merched rywsut wastad ‘yr un fath’. Ond mae’r safbwynt hwn wedi ei herio ac mae haneswyr, awduron a gwneuthurwyr ffilmiau ffeminyddol Cymru, yn ceisio’u gorau i wneud iawn am hyn ac achub hanes merched Cymru. Nid datrys gwahaniaeth barn ymysg unigolion sydd wedi ymchwilio’n dda i’r pwnc yw’r brif broblem sy’n wynebu haneswyr heddiw sy’n ymhél â hanes merched Cymru: eithr, y dasg, yn syml, yw cyflwyno hanes merched yng Nghymru ar sail yr ymchwil helaeth a thrylwyr er mwyn herio mythau canfyddedig ac ystrydebau a ailadroddir yn aml. Dyma’r olwg ‘fytholegol’ a geid ar hanes merched Cymru yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel - er, y mae’r hanes hwnnw mor amwys, fel nad oes unrhyw arwyddocâd arbennig i’r dyddiadau: cyfeirid at y ‘Fam Gymreig’ wrth sôn am ferched Cymru - gwragedd glowyr a mamau glowyr; roedd ganddynt ddylanwad enfawr mewn cymdeithas oedd gan mwyaf yn fatriarchaidd, ond yn groes i hyn, nid oedd eu gorwelion na’u diddordebau’n ymestyn ymhellach na’u haelwyd eu hunain. Nid yw’r ffynonellau hanesyddol, boed yn rhai llafar, ysgrifenedig neu weledol, yn cefnogi’r safbwynt hwn. Er nad oes cymaint o ffynonellau hanesyddol am ferched yng Nghymru, neu efallai nad ydynt mor amlwg o’u cymharu â’r rhai am hanes dynion, mae digonedd i’w cael. Serch hynny, mae dau brif wendid yn y dystiolaeth ystadegol. Yn gyntaf, mae’r rhan fwyaf o’r ystadegau a gasglwyd gan y llywodraeth yn seiliedig ar Gymru a Lloegr gyda’i gilydd ac mae’n anodd cael gwybodaeth am Gymru ei hun. Yn ail, mae cyfrifiadau’n ffynhonnell ddefnyddiol i haneswyr ac er bod cofnodion cyfrifiad ar gyfer 1921 a 1931, ni chynhaliwyd cyfrifiad yn 1941, oherwydd y rhyfel, ac o ganlyniad, mae diffyg gwybodaeth a allai ein cynorthwyo i bwyso a mesur unrhyw newidiadau yn ystod y 1930au.

Para 6.2

Mae’n bwysig pwysleisio un pwynt arall cyn gosod fframwaith i astudio merched yng Nghymru rhwng y ddau ryfel a chyn dechrau’r astudiaeth honno. Mae’n rhan annatod o hanes merched ym Mhrydain yn y cyfnod hwnnw ac mae’n bwysig bod yn gyfarwydd â’r prif ddatblygiadau yn hanes merched Prydain yn y cyfnod hwn. Gellir crynhoi’r ffeithiau cyffredinol fel a ganlyn. Yn ystod y cyfnod cyn y Rhyfel Byd Cyntaf bu ymdrech llafurus a hir i gael hawl pleidleisio i ferched. Mae’n bwysig nodi nad oedd mudiad y swffragetiaid wedi ei gyfyngu i Lundain, na Manceinion. Roedd grwpiau gweithredol o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched yng Ngogledd Cymru, yn benodol ym Mangor, ac yng nghymoedd De Cymru, yn arbennig yn ardal Pont-y-pŵl, ac roedd celloedd o ganghennau ffurfiol yn ymladd dros ‘yr Achos’ yn nifer o brif drefi Cymru. Yn 1918 rhoddwyd hawl i ferched dros 30 oed bleidleisio. Er hynny, parhaodd y frwydr dros gael yr un hawl â dynion wrth bleidleisio, nes llwyddwyd i sicrhau’r hawl hwnnw yn 1928. Roedd merched Cymru’n dal i fod yn rhan o’r frwydr hon. Ond tawelodd yr ymgyrch arbennig hon wrth i Brydain gyfan uno mewn brwydr fwy yn erbyn yr Almaen a gwledydd Awstro-Hwngari yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ystod y Rhyfel Mawr, yng Nghymru fel yng ngweddill Prydain, galwyd ar ferched i weithio mewn ffatrïoedd gwneud arfau neu i wneud swyddi dynion mewn gwahanol feysydd: roeddent yn gyrru tramiau, yn gweithio ar y tir, ac ar y rheilffyrdd, yn glanhau simneiau neu’n gweithio fel clercod. Pan ddaeth y rhyfel i ben, trwy gyfrwng y Ddeddf Dychwelyd i’r Arferion Cyn y Rhyfel ynghyd â phwysau gan yr unedau llafur, cafodd swyddi dynion eu trosglwyddo’n ôl i ddynion. Felly yn y flwyddyn 1919 dechreuodd cyfnod o ddiweithdra mawr ymysg merched. Wrth i ferched gael eu diswyddo o’r swyddi yr oeddent wedi bod yn eu gwneud yn ystod y rhyfel rhoddwyd sylw yn y cyfryngau ac yn genedlaethol i’r fersiwn newydd o ideoleg ddomestig, h.y. rôl y ferch yn y cartref. Yn y wasg rhoddwyd sylw amlwg i’r ddelwedd o wraig tŷ: hon oedd y rôl yr oedd merched yng Nghymru fel yng ngweddill Prydain yn cael eu cymell i gydymffurfio â hi. Yn y cyfamser, gorfodwyd ffeminyddion, a oedd wedi gobeithio gallu adeiladu ar y tir a enillwyd o safbwynt rôl y ferch yn ystod y rhyfel, i ailfeddwl. Yn ystod y cyfnod hwn ymrannodd ffeminyddiaeth Prydain yn ddwy gangen. Parhaodd ‘hen ffeminyddiaeth’, fel y’i gelwid, i frwydro am hawliau cyfartal i ferched a chanolbwyntiodd ‘ffeminyddiaeth newydd’ ar hawliau merched yn y cartref ac yn benodol ar eu hawliau fel mamau. Ar y naill law cynrychiolai Arglwyddes Rhondda, heb os y ffeminydd fwyaf blaenllaw a dylanwadol yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel, ‘hen ffeminyddiaeth’, a chanolbwyntiodd ar gyflogaeth gyfartal a hawliau ym myd addysg i enethod a merched. Ar y llaw arall, cynrychiolai Eleanore Rathbone,sy’n cael ei hadnabod fel yr eiriolydd pennaf dros lwfansau plant, ‘ffeminyddiaeth newydd’ gyda’i phwyslais ar wella sefyllfa mamau. Yn gyffredinol, roedd y ddwy gangen yn cynrychioli rhaniad o ran dosbarth. Er y byddai merched yn elwa ar hyrwyddo’r ddau fath o ffeminyddiaeth, roedd gan y math newydd o ffeminyddiaeth fwy i’w gynnig i’r rhan fwyaf o ferched Cymru. Yn nhermau hawliau merched roedd amryw o ddeddfwriaethau wedi gwella eu byd. Mewn theori, ond nid yn ymarferol, roedd y Ddeddf (Dileu) Anghymwysteran Rhyw wedi agor drysau i wahanol alwedigaethau. Roedd telerau cyfartal deddf ysgaru 1923, h.y. bod yr un hawliau ysgaru gan ferched a dynion, a deddf yn sicrhau tegwch rhwng y rhywiau o safbwynt gwarchodaeth babanod yn 1925, wedi gwella sefyllfa merched priod. Hefyd yn 1925 cyflwynwyd pensiynau gweddwon. Ond bu’n rhaid aros tan ddiwedd yr Ail Ryfel Byd i wireddu syniad arloesol Eleanore Rathbone o gael lwfansau plant. Ar y cyfan profwyd nad oedd llawer o sail i optimistiaeth ffeminyddion yn 1918: diolchwyd iddynt am eu gwasanaethau i’r genedl (term, y mae’n ymddangos, sy’n diystyru merched) ac roedd disgwyl iddynt ddiflannu’n dawel ‘yn ôl i’r cartref’.

Para 6.3

Mae hanes merched yng Nghymru’n rhan o’r patrwm trwy Brydain gyfan. Yn y traethawd hwn hoffwn edrych ar hanes merched Cymru yn y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel. Rhaid gwneud hynny er mwyn gallu cymharu’n ddilys â’r fytholeg am ferched Cymru yn yr un cyfnod. Er mwyn gwneud hynny byddaf yn edrych ar waith cyflogedig merched yng Nghymru, merched yn y cartref ac ymgyrchoedd merched.

Gwaith cyflogedig merched

Para 6.4

Mae gwaith cyflogedig merched yng Nghymru yn faes y dylid rhoi sylw iddo. Rhaid nodi sawl ffactor. Yng Nghymru roedd cyfradd gweithgarwch economaidd ymysg merched yn isel iawn. I ferched dros 15 oed y cyfraddau oedd 1911: 27.26 y cant, 1921: 23.0 y cant, 1931: 21.52 y cant, a 1951: 24.95 y cant. Roedd hyn yn deillio o’r ffaith bod swyddi’n brin i ferched yng Nghymru a’r ffaith bod merched yn draddodiadol mewn nifer o rannau o Gymru’n rhoi’r gorau i’w swyddi ar ôl priodi. Serch hynny, mae’n bwysig nodi bod tua 17 y cant o ferched yn ddibriod yn y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel ac felly roedd yn rhaid iddynt ennill eu bywoliaeth. Y pwynt hollbwysig arall yw bod nifer fawr o ferched wedi mudo o Gymru i rannau mwy llewyrchus o Loegr oherwydd prinder swyddi yng Nghymru. Roedd nifer enfawr o ferched yn gweithio fel morynion ac yn 1931 roedd o leiaf10,000 o ferched o Gymru’n gweithio fel morynion yn Llundain. Gweithiai merched Cymru, fel merched trwy Brydain, mewn amryw o alwedigaethau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roeddent yn gweithio fel clercod, yn dosbarthu’r post, glanhau simneiau, gyrru tramiau ac yn casglu tocynnau; roeddent yn gweithio mewn ffatrïoedd gwneud arfau (er enghraifft, Blaenafon a Chaernarfon), ar y tir ac yn y porthladdoedd (er enghraifft, Caerdydd). Ar ddiwedd y rhyfel collodd y merched eu gwaith: rhwng Tachwedd 1918 a Hydref 1919 collodd tri chwarter miliwn o ferched Prydain eu gwaith er mwyn i’r cyn-filwyr gael eu gwaith yn ôl. Roedd disgwyl iddynt ddiflannu’n ôl i’w cartrefi eu hunain neu i gartrefi rhywun arall (fel morynion). Roedd hawl gan ferched a fu’n gweithio yn ystod y rhyfel i gael tâl diweithdra o 25/-yr wythnos am 13 wythnos: achosodd hyn brotestiadau cyhoeddus (6A). Ar y pryd roedd prinder mawr o weision a morynion (6B), hwn oedd y math mwyaf amhoblogaidd o waith i ferched a dyma’r unig sector o’r farchnad lafur lle bu prinder yn ystod y cyfnod rhwng y ddau ryfel.

Para 6.5

Cafodd merched eu gorfodi i weithio fel morynion. Pe bai merch yn gwrthod swydd fel morwyn yna byddai’n colli ei budd-dal diweithdra: pe bai’n ei derbyn, a hynny am gyflog isel iawn, ni fyddai ganddi unrhyw gymorth gwladol wrth gefn, na hawl i unrhyw fudd-daliadau eraill. Yn ystod y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel, pan oedd diweithdra ar lefel uchel iawn, yr unig gynlluniau hyfforddi ar gael i ferched oedd ym maes gweini. Trefnid y rhain gan Bwyllgor Canolog Cyflogaeth i Ferched, o dan nawdd y Weinidogaeth Lafur lleolid y ‘canolfannau hyfforddiant cartref’ yn yr ardaloedd dirwasgedig. Yng Nghymru roeddent mewn lleoedd fel Aberdâr, y Barri, Pen-y-bont ar Ogwr, Brynmawr, Caerffili, Glynebwy, Maesteg, Merthyr Tudful, Pont-y-pŵl, Pontypridd, Wrecsam ac Ystrad Rhondda.

Para 6.6

Câi’r merched di-waith o Gymru hyfforddiant am 12 wythnos i weithio fel morynion, cyn cael gwaith, a hynny y tu allan i Gymru yn bennaf (6C). Roeddent yn mynd i weithio mewn sefydliadau preifat, ac yn fwyfwy, mewn sefydliadau cyhoeddus. Roedd y gwaith hwn wedi ei nodweddu gan dâl isel, oriau hir, statws isel, heb unrhyw ddeddfwriaeth i’w gwarchod. Roedd yr amodau gwaith yn amrywio ond roeddent yn aml yn wael (6D). Ceir hanesion am chwain mewn gwelyan a merched yn llwgu. Nid yw’r straeon hyn yn anghyffredin fel y dengys gwaith y sefydliadau achub, fel y Gymdeithas Wyliadwriaeth Genedlaethol a sioe Cymdeithas Cymorth Cyfeillgar Cymry Llundain i merched (6E).

Para 6.7

Gweini oedd prif ffynhonnell cyflogaeth merched ifanc o Gymru yn y blynyddoedd hyn. Dim ond mewn rhai ardaloedd yr oedd merched yn gwneud gwaith diwydiannol. Yn ardal Llanelli gwnâi ferched waith trwm a pheryglus yn aml, yn y diwydiant tunplat (6F).

Ni ddaeth ffatrïoedd diwydiannol ysgafn i Gymru tan ddiwedd y 1930au. Sefydlwyd ystâd ddiwydiannol Trefforest yn 1938 a sefydlwyd ffatri ddillad Polykoff yn y Rhondda yn 1939. Enillwyd peth tir a chollwyd peth tir o safbwynt merched proffesiynol yn y cyfnod hwn. Aeth nifer o ferched yn athrawon ac i weithio i’r gwasanaeth sifil. Er i’r gwasanaeth sifil agor ei ddrysau i ferched cyflwynwyd gwaharddiad ar ferched priod rhag gweithio yn y gwasanaeth hwnnw. Hefyd cyflwynwyd gwaharddiad i atal merched priod rhag gweithio fel athrawon o ganol y 1920au ymlaen.

Merched yn y cartref

Para 6.8

Yn y cyfrifiad roedd saith y cant o ferched Cymru yn y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel yn y categori ‘eriod wedi priodi’. Roedd 83 y cant yn y categori ‘yn briod erioed’. Roedd mwyafrif helaeth merched Cymru’n briod ac yn cael eu dosbarthu fel gwragedd tŷ. Gan fod prif ideoleg y cyfnod yn dweud mai yn y cartref oedd lle’r wraig tŷ, roedd y tŷ’n bwysig iawn iddi. Roedd tai’n brin yng Nghymru, fel yng ngweddill Prydain yn y cyfnod hwn, roedd yr amodau’n warthus a’r rhenti’n uchel; roedd yn sefyllfa wael, a oedd yn cael ei gwneud yn waeth am na chodwyd unrhyw dai newydd yn ystod y rhyfel. Yn wir, amlygwyd y broblem hon ynglŷn â thai mewn ymchwiliadau a gynhaliwyd. Mewn tystiolaeth a roddwyd i Gomisiwn Sankey ar y diwydiant glo, tynnwyd sylw gan Mrs Elizabeth Andrews, Trefnydd y Blaid Lafur yng Nghymru, at y rhenti uchel a’r amodau gwael (6G). Roedd y llywodraeth yn ystod y rhyfel wedi cydnabod bod y cartref yn bwysig ym mywydau merched a sefydlwyd Pwyllgor y Merched ar Dai yn 1918. Cafodd rhan ganolog tai ym mywydau merched a’r angen am welliannau a thai newydd ei nodi’n glir gan Gynghrair Cydweithredol y Merched mewn cynhadledd yn 1923 (6H).Mewn erthygl yn The Welsh Housing and Development Association Year Book, 1921, rhestrodd Mrs Alwyn Lloyd y pethau y byddai’n dymuno eu cael mewn cartref delfrydol: roedd cyflenwad o ddŵr poeth parod yn freuddwyd gan bob gwraig glöwr! (6I). Gellir cymharu’r ddelfryd hon â realiti ar ei waethaf - yn y math o dŷ lle’r oedd tiwberciwlosis (y diciâu) yn bla (6J). Roedd tai fel hyn yn bodoli yng Nghymru, boed mewn ardaloedd trefol neu wledig, ac er eu bod yn aml mewn cyflwr gwael iawn, gwaith caled oedd i gyfrif am y ffaith bod modd byw ynddynt. Gweithiai merched oriau hir a maith iawn yn yr ymdrech hon yn erbyn tlodi a budreddi (6K) Roedd llawer o ferched yn brwydro’n gyson yn erbyn tai gwael a budreddi. Roeddent yn ymfalchïo yn eu gwaith ac yn trefnu eu hwythnos yn ofalus - er enghraifft, dydd Llun - golchi; dydd Mawrth - smwddio, gwneud y gwelâu; dydd Mercher - ystafelloedd ar y llawr cyntaf; dydd Iau - curo’r matiau; dydd Gwener - parlwr. Roedd yn gylch diddiwedd. Ond mewn rhai achosion roedd caledi economaidd mawr yn effeithio ar falchder merched nid yn unig yn eu cartrefi ond yn eu hedrychiad eu hunain, fel y canfu Ymchwilwyr Ymddiriedolaeth Pilgrim (6L)

Para 6.9

Yn ystod y cyfnod rhwng y ddau ryfel daeth rhai merched yn rhydd o gyfyngiadau cylch preifat y cartref i fyd cyhoeddus gwleidyddiaeth, masnach a’r proffesiynau: serch hynny, y wraig tŷ oedd brenhines y cartref o hyd ac yma’n unig oedd ganddi unrhyw ddylanwad neu awdurdod. Nid yw rhai haneswyr hŷn eu harddull wedi cydnabod mor gyfyng oedd cylch awdurdod y ‘Fam Gymreig’ ac o ganlyniad maent yn cyfeirio at Gymru fel cymdeithas fatriarchaidd. Nid yw hyn yn gwneud synnwyr. Mae’r myth hwn wedi ei wreiddio yn yr arferiad a oedd gan y glowyr a’r docwyr a llafurwyr eraill o drosglwyddo eu pecyn cyflog heb ei agor i’w gwragedd. Roedd hwn yn arferiad cyffredin ond mae’n bwysig sylweddoli bod y glöwr, ayb. wrth drosglwyddo’r cyfrifoldeb o reoli’r cartref yn gwneud hynny gyda chyflog bach iawn yn aml. Nid oedd diwydianwyr yn trosglwyddo’r elw blynyddol i'w gwragedd a gofyn iddynt ei reoli. Ond mae’r darlun hwn o ddylanwad y ‘Fam’ oherwydd yr arferiad hwn wedi ei gynnwys mewn llenyddiaeth a chof y werin (6M). Mewn realiti roedd yn rhaid iddi reoli - talu’r rhent, prynu bwyd, tanwydd, golau, yswiriant, eitemau i’r cartref a dillad i’w gŵr, ei phlant a hithau - gyda chyflog penodol. Pan nad oedd cyflog, ac mewn sawl rhan o Gymru, roedd hynny’n digwydd yn y 1920au a’r 1930au, roedd yn dal yn gorfod ymdopi: roedd trin arian am yr wythnos yn gamp.

Dewisodd y wraig o Gaerffili - mae manylion ei chyllideb am yr wythnos, ynghyd â’i diet personol ei hun, wedi eu cynnwys yn y casgliad o ffynonellau - ddangos ei chyllideb mewn wythnos pan oedd cyflog ei gŵr ar ei uchaf: hyd yn oed wedyn, cafodd ei beirniadu gan ddadansoddwyr meddygol ar y pryd am beidio â gwario ar bysgod ac wyau (6N). Mewn cyfnod o galedi, roedd merched yn aml iawn yn arbed arian trwy fwyta llai o fwyd eu hunain. Roedd hyn yn cael effaith ddifrifol ar eu hiechyd: roedd y wraig o Gaerffili’n dioddef o bendro a dychlamiadau. Mae nifer o ymchwilwyr, Syr John Orr , Seebohm Rowntree a thîm Cymdeithas Feddygol Prydain, wedi dangos bod diet y dosbarth gweithiol yn annigonol. Roedd pobl yn llenwi eu boliau â bara, nid oeddent yn yfed digon o laeth ffres: hyd yn oed yn y wlad roeddent yn yfed llaeth tun. Roedd tai gwael, diet gwael a gormod o waith, ynghyd â gwasanaeth meddygol yr oedd yn rhaid talu amdano (eithriad oedd ardaloedd y pyllau glo lle’r oedd cynlluniau yswiriant meddygol), yn arwain at iechyd o safon isel ymysg merched. Roedd disgwyl na fyddai iechyd merched y dosbarth gweithiol yng Nghymru gystal â merched gwell eu byd - ac yn aml roedd hynny’n wir. Heblaw am y prif afiechydon, roedd anhwylderau yr oedd yn rhaid iddynt ddysgu byw â hwy. (6O). Tiwberciwlosis oedd un o afiechydon mwyaf difrifol y cyfnod. Mae'n afiechyd sy’n cael ei gysylltu â thlodi a thai gwael ac roedd llawer mwy o bobl yn dioddef ohono yng Nghymru o’i gymharu â Lloegr. Yn 1930 rhoddodd Megan Lloyd George ei haraith gyntaf yn y Senedd mewn ymateb i gynllun tai gan y llywodraeth. Roedd yr araith honno’n canolbwyntio ar beryglon tiwberciwlosis i ferched yng nghefn gwlad Môn (6P). Mewn adroddiad pwysig yn 1939 nodwyd bod cysylltiad rhwng tiwberciwlosis yng Nghymru a thai.

Para 6.10

Cynyddodd problemau geni plant hefyd y peryglon i iechyd merched. Roedd cyfradd y merched a oedd yn marw wrth roi genedigaeth ym Mhrydain yn cael ei hystyried yn sgandal yn y 1920au. Yng Nghymru roedd y ffigyrau’n gyson waeth nag yn Lloegr. Tra bod cyfradd marwolaeth merched wrth roi genedigaeth o’r holl achosion yng Nghymru a Lloegr yn 4.33 i bob 1000 yn 1920, 3.91 yn 1921 a 3.81 yn 1922, yng Nghymru’n unig roedd y ffigyrau’n 5.52 i bob 1000 yn 1920, 5.35 yn 1921 a 5.43 yn 1922 (6Q). Roedd cyfradd marwolaethau babanod hefyd yn frawychus o uchel, er bod parseli bwyd o’r tu allan wedi gostwng y ffigwr hwnnw erbyn 1926. Yn Sir Fynwy bu gostyngiad yng nghyfraddau marwolaeth babanod i bob 1000 o enedigaethau cofrestredig o 83.8 yn 1925 i 66.1 yn 1926, ond cododd eto yn 1927 i 87.3. Yn y 1930au roedd plant ym Mhengam yn dal y llech tra eu bod yng nghroth eu mam. Roedd y naill feichiogrwydd ar ôl y llall yn gwneud niwed i iechyd merched, fel y dangoswyd yn Maternity, casgliad o draethodau dirdynnol a gyhoeddwyd yn 1915 gan Gynghrair Cydweithredol y Merched. Roedd y gyfradd geni mewn gwirionedd wedi gostwng o gyfartaledd o 5.5. i 6 genedigaeth fyw i bob cwpwl yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg i 2.2 o enedigaethau byw yn y blynyddoedd rhwng 1925 a 1929. Ond er gwaethaf ymdrech ymgyrchwyr, roedd dulliau atal cenhedlu’n dal yn druenus. Ysgrifennai merched o Gymru lythyrau truenus at Marie Stopes ac ymgyrchwyr eraill dros ddulliau atal cenhedlu (6R). Yn ystod ei thaith o gwmpas De Cymru a Sir Fynwy yn y 1920au, synnwyd yr ymgyrchwraig Stella Browne, gan barodrwydd cynulleidfaoedd i wrando arni (6S)

Para 6.11

Ond roedd y naill feichiogrwydd ar ôl y llall yn gwanhau iechyd merched. Yn 1930 ildiodd y llywodraeth yn rhannol i ymgyrchwyr dros ddulliau atal cenhedlu trwy gytuno y gallai clinigau Mamolaeth a Lles Plant (a sefydlwyd ar ôl y rhyfel i roi cyngor ynglŷn â beichiogrwydd a gofal plant) roi cyngor ynglŷn â dulliau atal cenhedlu i famau y byddai eu hiechyd yn dioddef pe byddent yn beichiogi eto. Ond caniatáu i awdurdodau roi cyngor ynglŷn â dulliau rheoli’n unig a wnâi’r memorandwm: nid oedd unrhyw orfodaeth arnynt i wneud hynny. Roedd nifer o siroedd Cymru’n araf iawn i wneud hyn: roedd Sir Fynwy’n wael iawn. Yng Nghaerdydd bu farw nifer o ferched wrth gael erthyliad anghyfreithlon cyn iddo gael ei weithredu yn yr ardal (6T). Roedd gan Ferthyr broblem anarferol a thra gwahanol (6U).

Ymgyrchoedd merched

Para 6.12

Roedd rhagolygon merched o gael gwaith yn wael ac nid oedd bywyd yn y cartref ac iechyd yn galonogol chwaith. Ond mae’n bwysig nad ydym yn darlunio merched fel dioddefwyr yn y cyfnod hwn. Dechreuodd rhai ohonynt weithio mewn meysydd cyhoeddus a chwaraeodd nifer ohonynt ran mewn ymgyrchoedd merched neu gymunedol. Parhaodd merched Cymru i ymladd dros hawliau cyfartal i bleidleisio nes i hynny ddod i rym yn 1928 (6V). Buont yn brwydro am well amodau yn y gymuned hefyd, trwy ymgyrchoedd fel yr un i gael baddonau ym mhennau pyllau.

Cymerodd merched Cymru ran yn yr Orymdaith Newyn yn 1934: gorymdeithiodd y merched ar flaen y fintai'r holl ffordd mewn ymdrech i atal toriadau pellach i’r budd-daliadau diweithdra ac i fynnu eu bod yn cael gwaith (6W). Yn 1935 ymosododd merched o gymoedd De Cymru ar swyddfeydd y Bwrdd Cymorth Diweithdra ym Merthyr; o ganlyniad penderfynodd y llywodraeth roi'r gorau i’w hymgais i dorri budd-daliadau. Bu’r brotest dorfol yn llwyddiant.

Uned 7 EdwardIa choncwest Cymru yn yr Oesoedd Canol