Para 6.7

Gweini oedd prif ffynhonnell cyflogaeth merched ifanc o Gymru yn y blynyddoedd hyn. Dim ond mewn rhai ardaloedd yr oedd merched yn gwneud gwaith diwydiannol. Yn ardal Llanelli gwnâi ferched waith trwm a pheryglus yn aml, yn y diwydiant tunplat (6F [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ).

Ni ddaeth ffatrïoedd diwydiannol ysgafn i Gymru tan ddiwedd y 1930au. Sefydlwyd ystâd ddiwydiannol Trefforest yn 1938 a sefydlwyd ffatri ddillad Polykoff yn y Rhondda yn 1939. Enillwyd peth tir a chollwyd peth tir o safbwynt merched proffesiynol yn y cyfnod hwn. Aeth nifer o ferched yn athrawon ac i weithio i’r gwasanaeth sifil. Er i’r gwasanaeth sifil agor ei ddrysau i ferched cyflwynwyd gwaharddiad ar ferched priod rhag gweithio yn y gwasanaeth hwnnw. Hefyd cyflwynwyd gwaharddiad i atal merched priod rhag gweithio fel athrawon o ganol y 1920au ymlaen.