Para 6.11

Ond roedd y naill feichiogrwydd ar ôl y llall yn gwanhau iechyd merched. Yn 1930 ildiodd y llywodraeth yn rhannol i ymgyrchwyr dros ddulliau atal cenhedlu trwy gytuno y gallai clinigau Mamolaeth a Lles Plant (a sefydlwyd ar ôl y rhyfel i roi cyngor ynglŷn â beichiogrwydd a gofal plant) roi cyngor ynglŷn â dulliau atal cenhedlu i famau y byddai eu hiechyd yn dioddef pe byddent yn beichiogi eto. Ond caniatáu i awdurdodau roi cyngor ynglŷn â dulliau rheoli’n unig a wnâi’r memorandwm: nid oedd unrhyw orfodaeth arnynt i wneud hynny. Roedd nifer o siroedd Cymru’n araf iawn i wneud hyn: roedd Sir Fynwy’n wael iawn. Yng Nghaerdydd bu farw nifer o ferched wrth gael erthyliad anghyfreithlon cyn iddo gael ei weithredu yn yr ardal (6T [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ). Roedd gan Ferthyr broblem anarferol a thra gwahanol (6U).