Para 7.2
Mae’n hawdd deall yr ymateb emosiynol hwn. O fewn cyfnod o bum mlynedd cafodd tair prif linach tywysogaeth Gymreig Gwynedd, Deheubarth a Gogledd Powys naill ai eu dileu bron neu eu dadfeddiannu’n syth, neu diraddiwyd aelodau’r teulu a oedd yn weddill i statws boneddigion anghenus. Roedd disodli a diraddio’r tywysogion fel hyn nid yn unig yn drasiedi i’w teuluoedd; roedd hefyd yn chwalu’r cysylltiadau a oedd ganddynt o ran gwasanaeth, teyrngarwch, nawdd a gwobrwyo, hynny yw, yr union bethau a glymai’r gymdeithas ganoloesol at ei gilydd. Sefydlwyd trefn lywodraethu newydd, gyda chanolfannau yng Nghaernarfon, Caerfyrddin a Chaer; crëwyd unedau gweinyddol a swyddi newydd, hynny yw, y sir a’r siryf; gwnaed arolygon newydd o daliadau dyledus; ac ar yr haen lywodraethu uchaf ffurfiwyd cnewyllyn gweinyddol newydd gan y Saeson i reoli’r tiroedd a goncrwyd. Yn goron ar y cyfan sefydlwyd system gyfreithiol newydd a gyhoeddwyd yn Ystatud Cymru ym Mawrth 1284. Roedd llawer o gynnwys yr Ystatud yn oleuedig, goddefgar ac anwahaniaethol, yn benodol yr agwedd oddefol ynddo tuag at weithdrefnau cyfreithiol Cymreig ac arferion y Cymry o safbwynt etifeddu. Serch hynny roedd ei bwrpas yn glir: cyflwyno arferion rhagorach cyfraith Lloegr, yn rhannol trwy orfodaeth ac yn rhannol trwy berswâd i’r Cymry. Cododd y Cymry mewn gwrthryfel yn 1282 ‘in defence of their laws’ fel y dywedodd un awdur Saesneg; rhan o’r pris yr oedd yn rhaid ei dalu am gael eu goresgyn oedd bod cyfraith Llundain, fel y cyfeirid ato’n ddirmygus, bellach wedi ei orfodi arnynt. Nid oes rhyfedd fod un hanesydd enwog o Loegr wedi cyfeirio at Ystatud Cymru fel y ‘cyfansoddiad trefedigaethol cyntaf’.