Para 7.17

Ar 9 Gorffennaf 1283 lluniodd chwech o’r gwŷr ‘more noble, more honest and more trustworthy’ o bob un o brif gantrefi Gwynedd, gan weithredu ar ran eu cymunedau, fondiau gerbron Esgob Bangor i gadw’r heddwch (7A [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ).

Mae’r gweithredoedd hyn, a wnaed yn fuan ar ôl dal tywysog olaf Cymru, Dafydd ap Gruffydd, yn dynodi diwedd rhyfel annibyniaeth olaf Cymru; yn Ystatud Cymru, a gyhoeddwyd yn Rhuddlan wyth mis yn ddiweddarach, cofnodwyd trefniadau gweinyddol a chyfreithiol newydd Edward I ar gyfer y dywysogaeth a oedd bellach dan ei feddiant. Os oedd annibyniaeth wleidyddol, yn yr ystyr a roddwn i’r term, wedi dod i ben, cadwodd tywysogaeth Cymru, a roddwyd yn 1301 i fab hynaf y brenin, Edward Caernarfon, ei hannibyniaeth; ni ddaeth yn rhan o deyrnas Lloegr.

Coron a chymunedau: cydweithio a gwrthdaro (A.D.Carr)