Para 7.27

Mae gwrthryfel Madog yn dangos mai camgymeriad oedd cymryd teyrngarwch y gymuned yn ganiataol. Roedd y gymuned ac unigolion yn barod iawn i leisio eu cwynion. Yn 1305 cyflwynwyd corff o ddeisebau o Ogledd Cymru i Edward Caernarfon yn ei faenor yn Kennington yn Surrey. Roedd 32 o’r deisebau hyn gan y gymuned. Mae rhai’n adlewyrchu’r tensiwn a oedd eisoes yn datblygu rhwng pobl y dywysogaeth a’r bwrdeistrefi Saesneg newydd a sefydlwyd gan Edward fel rhan o’i setliad. Roedd y gymuned yn casáu cael eu gorfodi i fasnachu yn y bwrdeistrefi, tra bod y bwrdeiswyr yn cwyno’n aml nad oedd pobl yn dod i’w marchnadoedd a’u ffeiriau i fasnachu a’u bod o’r herwydd yn colli incwm o’u tollau (7O [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , 7P). Byddai’r tensiwn hwn yn gwaethygu yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.