Para 7.28

Un o’r prif gwynion gan y gymuned oedd yr hawl i brynu a gwerthu tir. Yn ôl Ystatud Cymru dylai daliadaeth tir barhau i gael ei llywodraethu gan gyfraith Cymru; roedd hyn yn golygu bod tir etifeddol rhydd yn cael ei freinio i’r teulu ac na allai unrhyw unigolyn werthu ei etifeddiaeth. Yn 1305 gofynnodd y gymuned am yr hawl i werthu a phrynu tir; yr ateb a roddwyd oedd nad oedd y Tywysog yn fodlon gwneud unrhyw newidiadau (7Q [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ).

Nid dyma ddiwedd y mater; yn Senedd Lincoln yn 1316 rhoddwyd yr hawl iddynt werthu a phrynu tir am gyfnod o dair blynedd (7R). Ar y pryd roedd Edward II yn awyddus i fod yn gymodlon, yn arbennig o ystyried y bygythiad gan y brodyr Bruce yn Iwerddon a gwrthryfel diweddar Llywelyn Bren ym Morgannwg. Yn 1321 ymestynnwyd yr hawl am gyfnod o bedair blynedd ond nid oes tystiolaeth ei fod wedi ei adnewyddu ar ôl hynny. Gellir tybio bod y cyfeiriad yn y ddeiseb at gyfnod o bedair blynedd yn gysylltiedig â’r weithred gyfreithiol ‘prid’ a oedd yn ei gwneud yn bosibl trosglwyddo tir o dan gyfraith Cymru. Ond mae’r ymateb i’r ddeiseb hon yn dangos fod y gymuned, pa mor geidwadol bynnag yr oedd mewn rhai agweddau, yn gofyn am fwy o newid nag yr oedd yr awdurdodau’n barod i’w ildio. O ran tir, roedd y setliad newydd yn arbennig o geidwadol; yn ôl yr ystatud ni fyddai unrhyw newid yn y drefn o olyniaeth ranadwy (7S). Fodd bynnag, roedd ffyrdd y gellid osgoi rhannu’r tir gan drosglwyddo’r cyfan i’r mab hynaf (7T).

Yn ogystal â’r deisebau a gyflwynwyd yn Kennington gan y gymuned, roedd llawer mwy gan unigolion. Roedd a wnelo nifer o’r rhain â swyddogaethau, hawliau neu freintiau a roddwyd cyn y goncwest, ac yr oedd swyddogion y dywysogaeth yn ceisio ymyrryd â hwy (7U). Nid dyma’r unig ddeisebau; yn wir, trwy ddeiseb oedd y ffordd arferol i aelodau’r gymuned gysylltu â’r brenin neu’r tywysog ac mae nifer ohonynt wedi goroesi yn ogystal â rhai 1305 (7V). Mae’r rhain hefyd yn aml yn dangos ymateb y gymuned i’r drefn newydd.