Para 7.22
Yn achos y rhan fwyaf o bobl ychydig iawn o newid a ddaeth yn sgil y drefn newydd a chadwodd arweinwyr traddodiadol y gymuned eu grym a’u dylanwad. Yn wir, mewn rhai ffyrdd efallai fod Gwynedd ar ei hennill o dan Edward o’i gymharu â Llywelyn ap Gruffudd. Mae’n bosibl bod gofynion ariannol trwm Llywelyn wedi bod yn straen ar deyrngarwch ei bobl. Er hynny, bu dau wrthryfel yng Nghymru rhwng 1282 a marwolaeth Edward yn 1307. Arweiniwyd y cyntaf, yn Sir Gaerfyrddin yn 1287 gan Rhys ap Maredudd, aelod o dŷ brenhinol y Deheubarth (7I [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ). Fel mwyafrif yr arglwyddi Cymreig y tu allan i Wynedd, roedd Rhys wedi cefnogi Edward yn rhyfel 1276-7; yn wahanol iddynt hwy, roedd hefyd wedi ochri ag ef yn 1282. O ganlyniad roedd wedi disgwyl cael ei wobrwyo’n well nag a gafodd; roedd wedi tybio y byddai’n arglwydd annibynnol Cantref Mawr, ond teimlai fod Ynad De Cymru’n rhoi pwysau cynyddol arno ac yn ymyrryd. Ym Mehefin 1287 dechreuodd wrthryfela, ond erbyn Ionawr 1288 rhoddwyd terfyn ar y gwrthryfel gan fyddin y brenin, a oedd yn cynnwys nifer fawr o Gymry, arno. Yn y diwedd daliwyd Rhys a chafodd ei grogi yn Efrog.
Para 7.21