Para 7.24
Mae’n bosibl bod cyfuniad o achosion wedi arwain y gymuned i wrthryfela. Yn ystod blynyddoedd olaf Llywelyn roedd pwysau ariannol anghyffredin ar gymuned Gwynedd. Pan edrychodd swyddogion Edward ar ei diriogaethau newydd ar ôl y goncwest mae’n bosibl eu bod wedi cymryd bod y gwasanaethau a’r dreth a godwyd ar y gymuned yn y blynyddoedd yn syth ar ôl marwolaeth y Tywysog yn batrwm cyffredin. Adlewyrchwyd hyn yn yr Ystentiau a wnaed ar ôl y goncwest, a arweiniodd at gryn brotestio (7K [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ). Cwynodd taeogion trefgordd Penrhosllugwy ym Môn yn 1315, 1322 ac eto yn 1327; er iddynt brofi eu pwynt bob tro parhaodd yr awdurdodau am amser hir i geisio casglu’r arian ychwanegol. Yn ogystal â’r gofynion gormodol hyn, gosodwyd treth yng Nghymru yn 1291 yn ogystal â Lloegr ac yn 1294 ceisiwyd gorfodi milwyr o Gymru i fod yn rhan o ymgyrch y Brenin yn Gasconi. Efallai bod hyn oll wedi gwthio’r gymuned i’r pen ac efallai bod y ffaith bod ei harweinwyr wedi cymryd rhan yn y gwrthryfel yn dangos bod swyddogion Edward wedi mynd yn rhy bell.
Para 7.23