Para 8.4

Daeth trobwynt yng ngyrfa wleidyddol Lloyd George yn sgil argyfwng Cymru Fydd yn 1895-6. Roedd ei genedlaetholdeb Cymreig yn amlwg iawn bryd hynny. Teimlai’n argyhoeddedig mai’r unig ffordd resymegol i Gymru sicrhau datgysylltu, diwygio’r tir ac amcanion pwysig eraill oedd trwy gael ei llywodraeth ei hun o fewn system imperialaidd ffederal. Câi rhai eu hannog gan y cynnydd a wnaed gan hunanlywodraeth yn Iwerddon i gredu y gellid sicrhau hunanlywodraeth maes o law yng Nghymru a’r Alban. Trwy gydol 1895 ceisiodd Lloyd George droi Ffederasiynau Rhyddfrydol Gogledd a De Cymru’n gyfryngau i genedlaetholdeb Cymreig trwy eu huno â’i Gynghrair Cymru Fydd. Roedd yn eithaf rhwydd dwyn perswâd ar Ffederasiwn Rhyddfrydol Gogledd Cymru. Treuliodd Lloyd George lawer o amser ac adnoddau yn ystod haf a hydref 1895 i geisio dwyn perswâd ar Ryddfrydwyr De Cymru hefyd. Yn Nhredegar, yn rhannau Seisnig Sir Fynwy er enghraifft, honnodd ei fod wedi cael ymateb rhagorol, er dywedodd fod y bobl leol wedi ‘sunk into a morbid footballism’ (8Ki [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ). Ond yn rhannau Seisnig, diwydiannol de-ddwyrain Cymru, yn arbennig rhannau cosmopolitan mawr Abertawe, y Barri a Chaerdydd, roedd y bobl yn hynod o amheus. Fel yn ystod yr ymgyrch ddatganoli yn 1979, roedd arnynt ofn dylanwad poblogaeth Gymraeg ei hiaith yn yr ardaloedd gwledig. Daeth yr uchafbwynt yng nghyfarfod trychinebus Ffederasiwn Rhyddfrydol De Cymru ar 16 Ionawr 1896. Yma ni roddwyd unrhyw groeso i Lloyd George a chondemniwyd Cymru Fydd gan gynrychiolwyr masnachol de-ddwyrain Cymru. Wrth sôn am y cyfarfod wrth ei wraig a’i gyfaill o Sir y Fflint, Herbert Lewis, AS (8Kii, 8Kiii), honnodd ei fod dan ei sang ac nad oedd yn gynrychioliadol , ac y byddai’r frwydr dros hunanlywodraeth i Gymru’n mynd yn ei blaen. Eto i gyd roedd yn drobwynt pendant yn ei yrfa, a’r tro cyntaf iddo gael ei wrthod. Sylweddolodd fod Rhyddfrydwr Cymru’n gadarn o blaid datgysylltu’r Eglwys, diwygio’r tir, addysg a dirwestaeth, a chydraddoldeb cenedlaethol o fewn Ynysoedd Prydain, ond nid oeddent eisiau bod yn wlad ar wahân. Nid oedd y Cymry fel y Gwyddelod. Nid oeddent eisiau cael eu torri i ffwrdd o Loegr na’r system imperialaidd. Yn wir, tynnwyd hunanlywodraeth i Gymru oddi ar yr agenda gwleidyddol, am byth efallai, a chydnabu Lloyd George y ffaith honno. Roedd yn fodlon ymladd dros achos a oedd ar drai ond nid dros un a gollwyd. Yn 1896 fel yn 1979, pan gynigiwyd rhyw fath o hunanlywodraeth gwleidyddol i’r Cymry, fe’i gwrthodwyd gan fwyafrif helaeth.