Datblygu'r hyn rwyf wedi'i ddysgu ymhellach

1 Beth wyf wedi'i ddysgu?

Gobeithio bod Cynllunio dyfodol gwell [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] wedi bod yn ddiddorol ac yn llawn gwybodaeth.

Efallai y byddwch yn cofio ateb rhai cwestiynau ar ddechrau'r cwrs am yr hyn sy'n eich cymell i ddysgu. Nawr eich bod wedi cwblhau'r cwrs cyfan neu ran ohono, hoffem ofyn i chi fyfyrio ar eich profiad drwy gwblhau un gweithgaredd byr olaf.

Gweithgaredd 1

Timing: Caniatewch tua 15 munud

Holiadur am yr hyn rydych wedi'i ddysgu (2)

Gallwch adolygu'r atebion a roesoch i'r holiadur cyntaf ar ddechrau'r cwrs drwy fynd i'r Holiadur am yr hyn rydych wedi'i ddysgu (1).

Ystyriwch ble roeddech pan wnaethoch ddechrau'r cwrs hwn.

  • Sut roedd astudio'r cwrs hwn yn cyd-fynd â'ch bywyd bob dydd? A wnaethoch chi neilltuo amser i weithio arno neu a gawsoch chi amser penodol i wneud hynny?
  • A wnaethoch wynebu unrhyw heriau penodol? Sut wnaethoch chi eu goresgyn?
  • Ydych chi wedi dysgu unrhyw beth y gallwch ei ddefnyddio yn y dyfodol? Sut allai hyn ddylanwadu ar y ffordd y byddwch yn gwneud pethau yn y dyfodol?

Drwy astudio'r cwrs hwn, dylech nawr fod yn gallu gwneud y canlynol:

  • myfyrio ar eich sefyllfa bresennol a ble yr hoffech fod
  • deall effaith newid arnoch chi a'r opsiynau sydd ar gael i chi
  • nodi eich amcanion a'r camau gweithredu y gallwch eu cymryd i'w cyflawni.

2 Bathodynnau a datganiad cyfranogi