2.2 Casgliad

  • Mewn ymchwil gymdeithasol, at ddibenion swyddogol ac ar lawr gwlad, caiff Cymru ei rhannu'n aml yn rhannau neu'n ardaloedd penodol y tybir bod ganddynt nodweddion gwahanol.
  • Mae'r gwahaniaethau cymdeithasol a daearyddol hyn yn rhoi sail i'r ddadl bod mathau gwahanol o Gymry, neu fathau gwahanol o Gymreictod, sy'n dod i'r amlwg drwy agweddau ac ymddygiad.
  • Fodd bynnag, nid yw'r ffiniau rhwng y rhanbarthau hyn yn bendant nac yn benodol a gall map cymdeithasol Cymru gael ei ddarlunio mewn ffyrdd gwahanol, at ddibenion gwahanol.

Caiff y themâu a ystyrir yn yr adran hon eu dwyn ynghyd mewn sylw gan ddau academydd, sy'n myfyrio ar bwysigrwydd parhaus cymuned ac iaith ym mywyd gwleidyddol Cymru ac, felly, ar y math o ymateb y gall mudiad fel Cymuned, sef y grŵp gwrthwladychol sy'n ymgyrchu dros gymunedau Cymraeg, ei ysbrydoli. O'n safbwynt ni, yr hyn sy'n nodedig yw'r ffordd y mae'n uno elfennau o'r ffisegol a'r cymdeithasol ('tir' a 'chymuned') â chyfeiriadau at iaith, diwylliant a hunaniaeth, er mwyn rhoi datganiad ar y galon sy'n curo yng Nghymru. Fel llawer o'r safbwyntiau rydym wedi eu hystyried, mae hefyd yn awgrymu bod dadl ynglŷn â beth yn union y mae gwir Gymreictod yn ei olygu:

In Wales, ‘heartland communities’ ... provide a powerful focus for policy initiatives developed in their name. The phrase appeals to a hierarchy of presumed cultural authenticity, distinguishing a set of favoured enclaves where the ‘heart’ of Wales beats loudest. These communities are rooted most deeply in the ‘land’ of Wales, building on a productive association between supposed national distinctiveness or identity and images of gwlad –, as in Hen Wlad Fy Nhadau, of the Welsh national anthem. Phrases like ‘Welsh-speaking communities’ or even the innocent-sounding ‘small communities’ tap into a familiar ideological seam of meaning which predisposes us to find intense cultural value in communities, often with the idea of the Welsh language embedded in this idea.

(Coupland and Bishop, 2006, t. 36)

Mae'r arolwg byr hwn o arwyddocâd cymdeithasol rhai o'r gwahaniaethau o ran lle a pherthyn sy'n bodoli yng Nghymru yn awgrymu bod sawl fersiwn o Gymreictod yn cystadlu â'i gilydd, yn hytrach na bod un ateb i'r cwestiwn 'Ymhle y gallwch fod yn Gymro/Cymraes go iawn?' na hyd yn oed hierarchaeth daclus o'r lleoedd mwyaf Cymreig i'r lleoedd lleiaf Cymreig. Gall pob un ohonynt newid ac oherwydd hyn, mae'n anodd diffinio ffiniau pendant a phenodol rhyngddynt.

Mae rhai prosesau cymdeithasol pwysig ar waith, fel y gyfradd symudedd sy'n tyfu'n gyson, sy'n tueddu i danseilio'r hyn sy'n gwneud lleoedd yn unigryw a gwanhau hunaniaeth cymunedau. Un o'r ffyrdd y mae pobl yn ymateb i'r grymoedd hyn yw drwy fynnu, weithiau yn gryfach nag erioed o'r blaen, bod angen diogelu ac amddiffyn eu cymunedau a'u cydberthnasau cymdeithasol presennol a'r hyn y maent yn ei olygu. Yng Nghymru, gallwn weld llawer o enghreifftiau o bobl yn amddiffyn syniadau ynghylch cymunedau a hunaniaeth sydd fel pe baent dan fygythiad, fel Cymuned.

Yn ystod yr hanner canrif ddiwethaf, mae rhai newidiadau cymdeithasol ac economaidd syfrdanol wedi digwydd yng Nghymru. Eto i gyd, ni ddylai hyn ein hatal rhag gweld bod rhai pethau'n parhau hefyd. Mewn enghraifft brin o ddychwelyd at astudiaeth flaenorol, mae ymchwilwyr o Abertawe wedi ailadrodd rhywfaint o'r gwaith a wnaed gan Rosser a Harris (1965) ac wedi darganfod fod nifer fawr o bobl (59 y cant o'r sampl a astudiwyd) yn parhau i fyw y rhan fwyaf o'u bywyd yn y dref (Charles a Davies, 2005). Ymhlith y rhain, roedd cysylltiadau teuluol cryf i'w gweld o hyd yn ogystal â phrofiadau cyffredin; er enghraifft, pobl a oedd wedi mynd i'r ysgol gyda'i gilydd, gweithio gyda'i gilydd a byw yn yr un gymdogaeth. Drwy'r lefel uchel hon o sefydlogrwydd preswyl, ffurfiwyd rhai rhwydweithiau lleol, clos. Teimlir yn aml fod perthyn i'r math hwn o rwydwaith yn rhywbeth nodweddiadol Gymreig ac mae'n gwneud i bobl deimlo'n hynod o Gymreig. Mewn geiriau eraill, mae'r 'gymuned' yn parhau ym mhrofiad llawer o bobl yn Abertawe. Fodd bynnag, mae'n sicr hefyd nad oes llawer o bobl yng Nghymru yn profi'r lefel hon o sefydlogrwydd ac agosatrwydd am fod eu bywydau yn llawer mwy symudol a newidiol. Er mwyn deall y Gymru fodern, rhaid inni ystyried y ddau brofiad hyn a'r safbwyntiau gwahanol o Gymreictod y maent yn eu creu.

I gloi, dylid nodi eich bod, ar wahanol bwyntiau yn yr adran hon, wedi dod ar draws y bwlch rhwng cymunedau fel y maent mewn gwirionedd ac fel y tybir mae'r cymunedau hynny. Er enghraifft, mae'r ymatebwyr i ymchwil wledig Cloke et al (1997), a oedd yn ceisio rheoli'r mathau o geir, llenni neu erddi a oedd gan eu cymdogion er mwyn cydymffurfio â delfryd o gymuned Gymreig go iawn, yn diffinio'r hyn sy'n dderbyniol yn eu barn nhw er mwyn creu ymdeimlad o berthyn. Mae hyn yn datgelu cryn dipyn am sut y maent yn dychmygu y dylai eu cymuned fod ond nid yw bob amser yn datgelu rhyw lawer am sut mae'r gymuned honno mewn gwirionedd. Wedi'r cyfan, nid dim ond pobl estron neu fewnfudwyr o Loegr sy'n teimlo nad oes angen mynd i'r capel, neu osgoi glanhau eu ceir ar ddydd Sul; mae'r rhan fwyaf o'u cymdogion Cymreig yn teimlo'n union yr un fath. Mae'n ymddangos bod y person a gwynodd nad oedd pobl yn cadw at reolau'r Sul yn meddwl am fath o Gymreictod sy'n briodol i gyfnod yr astudiaethau cymunedol clasurol, nad yw wedi adlewyrchu'r ffordd y mae'r rhan fwyaf o Gymry yn byw mewn gwirionedd ers blynyddoedd lawer. Un o'r pethau pwysicaf a ddysgwyd o ymchwil i faterion yn ymwneud â lle, cymuned a pherthyn yw bod angen cymryd gofal i beidio â gadael i argraffiadau hiraethus a rhamantus o fywyd yn y gorffennol guddio gwir gymeriad ac ansawdd bywyd lleoedd a chymunedau heddiw.

2.1.3 Safbwyntiau ar wahaniaethau rhanbarthol y 'cymeriad Cymreig'