5.1.2 Cymru ddi-ddosbarth

Mae'n ymddangos bod hyn yn gwrthgyferbynnu'n llwyr â'r ddelwedd gyntaf o ddosbarth yng Nghymru, ond efallai nad yw mor wrthgyferbyniol os ystyriwn y mater yn fanylach. Os ystyrir bod Cymru yn wlad ddosbarth gweithiol yn y bôn, rhaid dechrau ein dadansoddiad â'r bobl gyffredin a phwysleisio'r hyn sydd ganddynt yn gyffredin. Mewn cyferbyniad, mae pobl yn Lloegr yn aml yn dweud bod y system ddosbarth yn nodwedd ganolog. Hynny yw, fel arfer, maent yn golygu bod rhai pobl yn cael eu geni â manteision mawr a'u bod yn dal eu gafael arnynt drwy fynd i'r ysgol gywir a chymysgu â phobl sydd â phŵer ac arian - gan gael cyfalaf cymdeithasol a diwylliannol drwy hynny. Yn yr achos hwn, mae dosbarth yn aml yn golygu snobyddiaeth ac mae'n golygu bod ein stori yn dechrau ar frig cymdeithas. Pan ddywedwn fod Cymru yn ddi-ddosbarth, rydym yn golygu bod pobl yn rhannu llawer o'r un gwerthoedd ac agweddau a'u bod yn dod o fathau tebyg o gymunedau bach. Rydym yn ystyried Cymru yn 'gymuned o gymunedau'. Mewn rhai ffyrdd, mae'n ffordd arall o ddweud ein bod i gyd yn perthyn i'r dosbarth gweithiol.

Gweithgaredd 12

Darllenwch y darn canlynol.

Yn ôl y darn, beth yw natur y gymdeithas yng Nghymru a beth sy'n ei gwneud yn wahanol i'r gymdeithas yn Lloegr?

It had often been remarked that class divisions between those living in Wales are less marked than in parts of England – in terms of the origin of income (most of the owners of land and capital are resident outside Wales), the distribution of income, and the differences of life-style. There is also a stress on locality – where one comes from – which masks status differences between wage workers and the few professional and managerial families in the ‘urban villages’. ... Even in towns as big as Swansea who you are (i.e. your place in the kin network) is often as important as what you are. In local affairs this leads to (what outsiders regard as) nepotism and a preference for locals.

(Leonard, 1980, t. 26)

Trafodaeth

Rhan o'r hyn a ddywedir yma yw nad oes llawer o bobl gyfoethog yn byw yng Nghymru; mae Cymru yn cael ei rheoli gan bobl sy'n byw yn Lloegr, felly gall Cymru fod yn gymharol ddi-ddosbarth a chael hanes o wrthdaro cymdeithasol. Ystyrir bod 'gelyn' y Gymru 'di-ddosbarth' yn byw y tu allan i Gymru. Mae neigaredd ('swyddi i'r dynion' - a dynion oeddent fel arfer) yn seiliedig ar achau a'r ardal leol yn hytrach na sefydliadau ('yr hen dei ysgol').

Ond caiff y ddadl hon ynglŷn ag absenoldeb dosbarthiadau ei defnyddio'n fwyaf aml yng nghyd-destun ardaloedd gwledig Cymru, yn hytrach na'r ardaloedd diwydiannol. Mae un cofnod dylanwadol o ardal Aberporth ar ôl yr Ail Ryfel Byd yn dadlau nad oedd pobl leol yn meddwl yn nhermau'r dosbarth uwch, y dosbarth canol a'r dosbarth gweithiol ond yn nhermau 'pobl y capel' a 'phobl y dafarn':

The distinctive characteristics of each group are its buchedd. ... The Welsh term buchedd (plural bucheddau) denotes behaviour, either actual or ideal, and thus corresponds broadly to the English term ‘way of life’. The same overall pattern of social life is found within each buchedd group. ... The two groups have a great deal in common ... The significance of the family and kindred is the same for both groups; ... Many members of both groups have the same occupations, the same working conditions, the same wages, leaving their houses at the same time in the morning and returning at the same time in the evening.

(Jenkins, 1960, tt. 13–14)

Pwynt David Jenkins yw bod y ddealltwriaeth leol o'r gymdeithas yn seiliedig ar feini prawf moesol a ffordd o fyw ac nad oes ganddi fawr ddim i'w wneud â gwaith ac incwm pobl. Parchusrwydd sy'n bwysig. Fodd bynnag, ni chaiff y ddadl hon ei chefnogi gan dystiolaeth ei arolwg ei hun nac astudiaethau eraill o gymdeithas yng Nghymru (Day a Fitton, 1975). Fel arfer, y bobl a oedd yn cael eu parchu, sef arweinwyr y capel a'r gymuned yn gyffredinol, oedd y trigolion mwy cefnog a sefydledig. Yn wir, un rheswm am y dirywiad crefyddol yn yr 20fed ganrif yng Nghymru oedd mai'r dosbarthiadau canol oedd yn cymryd y rolau hyn o bŵer a bri ac ystyriwyd eu bod yn ffurfio grŵp dethol iddynt hwy eu hunain.

Mae'n debyg bod y syniad bod yr ardaloedd gwledig yn ddi-ddosbarth yn deillio o'r ffaith bod Anghydffurfiaeth ar un adeg yn grefydd dorfol ac yn sail i wleidyddiaeth. Gorchuddiwyd y gwahaniaethau cymdeithasol mewn ardaloedd cefn gwlad gan gefnogaeth gyffredinol i'r Blaid Ryddfrydol ac, wedi hynny mewn sawl achos, i'r Blaid Lafur. Roedd perchenogion ystadau mawr, yr oedd ffermwyr yn rhentu tir oddi wrthynt, y tu allan i hyn. Ystyriwyd eu bod yn Seisnig eu diwylliant, yn Anglicaniaid yn grefyddol ac yn Geidwadwyr yn wleidyddol. Byddai'r dosbarthiadau eraill yn uno yn eu herbyn ac i lawer o bobl, roedd yr hyn a oedd ganddynt yn gyffredin â'i gilydd yn bwysicach na'r hyn a oedd yn eu rhannu. Ond roedd gwahaniaethau o ran incwm o hyd, roedd ffermwyr yn cyflogi gweision, ac roedd dosbarth canol o athrawon a phobl broffesiynol.

Ond mae ffyrdd eraill o asesu absenoldeb dosbarthiadau. Un mesur o ddosbarth yw incwm. Mae gwahaniaethau mawr iawn rhwng incwm y bobl fwyaf cefnog a'r lleiaf cefnog yng Nghymru - nid yw'n ddi-ddosbarth o bell ffordd. Mae gwahaniaethau incwm o'r maint hwn yn golygu y gall rhai pobl fforddio byw bywydau moethus iawn, gan ddangos eu gwariant mewn ffyrdd amlwg yn aml (dangos cyfoeth a statws drwy nwyddau materol). Mae eu diwylliant yn debyg o fod yn wahanol i ddiwylliant y rhai ar y lefelau incwm isaf, a fydd yn ei chael hi'n anodd yn aml i fforddio'r hanfodion a'r unig beth sy'n amlwg am eu gwariant hwy eu diffyg gwariant.

Fodd bynnag, mae'r anghydraddoldebau hyn mewn incwm ychydig yn llai yng Nghymru o gymharu â gweddill Prydain. Rhyngddynt, mae'r un rhan o ddeg dlotaf o'r boblogaeth yn cael tua 1.5% o gyfanswm incwm Cymru; mewn cyferbyniad, mae'r un rhan o ddeg fwyaf cyfoethog yn cael 25-30% o incwm Cymru. Nid yw dosbarthiad incwm yn gyffredinol wedi newid rhyw lawer dros y degawd diwethaf, heblaw am y cynnydd sydyn diweddar yng nghyfran cyfanswm yr incwm sy'n mynd i'r un rhan o ddeg fwyaf cyfoethog o'r boblogaeth (Yr Adran Gwaith a Phensiynau, 2011). Mae'r bwlch yn fawr iawn a byddem yn sicr o sylwi ar y gwahaniaethau mewn incwm, diwylliant a statws pe baem yn gweld y ddau grŵp ochr yn ochr â'i gilydd. Fel y gwelwch, nid ydym yn gweld y gwahaniaethau am nad ydym yn gweld y ddau grŵp gyda'i gilydd yn aml.

Pam bod cyfran incwm y grwpiau mwyaf cyfoethog yng Nghymru yn llai nag incwm y grwpiau cyfatebol yn Lloegr? Mae'r ateb yn ymwneud â strwythur dosbarth Cymru - hynny yw, nifer y bobl yn y grwpiau cymdeithasol amrywiol y mae'r rhai sy'n cynnal y cyfrifiad a chymdeithasegwyr yn gosod pobl ynddynt. Yng Nghymru, mae cyfran lai o'r boblogaeth yn tueddu i fod yn y grwpiau mwyaf cefnog o gymharu â Lloegr, a chyfran uwch yn y grwpiau llai cefnog. Dyma fu'r sefyllfa ers cryn amser, ers y 1960au o leiaf.

Gweithgaredd 13

Cartogram yw Ffigur 10. Map yw cartogram sy'n dangos gwybodaeth ystadegol ar ffurf diagram. Er bod y cartogram hwn yn edrych yn weddol debyg i fap o Brydain Fawr, mewn gwirionedd, dim ond dyluniad geometrig ydyw i ddangos dosbarthiad dosbarthiadau cymdeithasol ym Mhrydain: mae gwahaniaethau o ran y boblogaeth yn anffurfio'r siâp daearyddol, ond gallwch adnabod y tair gwlad wahanol a'u prifddinasoedd o hyd. Gan fod pob hecsagon yn cynrychioli 100,000 o bobl, ni fydd un ardal yn perthyn yn gyfan gwbl i'r un dosbarth cymdeithasol - ond mae un dosbarth cymdeithasol yn y mwyafrif ymhob ardal. Mae'r niferoedd yn yr allwedd yn cyfeirio at y dosbarthiadau cymdeithasol y mae'r cyfrifiad yn eu defnyddio i gategoreiddio pobl. Mae llythyrau cyntaf yr wyddor a'r rhifau isaf yn golygu dosbarthiadau cymdeithasol uwch.

  • Beth mae hyn yn ei ddweud wrthym am strwythur dosbarthiadau yng Nghymru o gymharu â gweddill Prydain?
NGCA (2009), t. 54.
Ffigur 10 Cartogram o Brydain yn ôl prif ddosbarth cymdeithasol pobl 25-39 oed yn 2005

Trafodaeth

Mae Ffigur 10 yn dangos cyn lleied o bobl sy'n perthyn i'r dosbarthiadau cymdeithasol uwch yng Nghymru - yn enwedig o gymharu â'r sefyllfa yn ne-ddwyrain Lloegr. Mae gwahaniaethau mawr rhwng ardaloedd yn Lloegr hefyd. Mae rhai ardaloedd, fel y gogledd-ddwyrain, yn eithaf tebyg i rannau o Gymru. Byddai'n gamarweiniol cymharu Lloegr i gyd â Chymru. Efallai bod angen inni feddwl mwy am y rhaniadau yn Lloegr.

Ond mae gwahaniaethau mawr iawn rhwng dosbarthiadau cymdeithasol yng Nghymru. Hyd yma, rydym wedi canolbwyntio ar y gymdeithas Gymreig gyffredin. Beth rydym yn ei wybod am y grwpiau bach, cefnog a phwerus? Mae'r ddwy adran nesaf yn edrych ar y materion hyn.

5.1.1 Dosbarth fel sefydliad a gwrthdaro

5.1.3 Gwladychwyr gwyn