Addysg Uwch yng Nghymru
Cliciwch isod i gael mwy o wybodaeth am ddarpariaeth Gymraeg ym mhrifysgolion Cymru.
Ewch i chwilotydd cyrsiau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gorff cenedlaethol sy’n chwarae rhan allweddol mewn cynllunio, cefnogi a datblygu addysg ac ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg ym mhrifysgolion Cymru.
Astudio gyda’r Brifysgol Agored
Meddwl am astudio gyda’r Brifysgol Agored? Nid chi yw’r unig un. Mae miloedd o ddysgwyr wedi profi ansawdd ein darpariaeth anffurfiol, am ddim ac wedi mynd ymlaen i astudio yn y Brifysgol Agored.
Y Brifysgol Agored yng Nghymru yw hoff brifysgol Cymru - rydym wedi dod i’r brig o ran boddhad myfyrwyr yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol am naw mlynedd yn olynol.
Ni yw’r darparwr addysg uwch rhan amser mwyaf yng Nghymru. Dysgwch fwy am y Brifysgol Agored yng Nghymru a phorwch trwy ein dewis llawn o gyrsiau a chymwysterau www.open.ac.uk/courses
Mwy o gyrsiau am ddim yn Gymraeg
Ewch i Y Porth – y prif lwyfan ar gyfer darparu a rheoli darpariaeth cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Datblygwyd yr adnoddau addysgol ar y Porth gan staff dysgu’r prifysgolion yng Nghymru.
Be the first to post a comment
We invite you to discuss this subject, but remember this is a public forum.
Please be polite, and avoid your passions turning into contempt for others. We may delete posts that are rude or aggressive, or edit posts containing contact details or links to other websites.