Hanes a’r Celfyddydau
Carnifal Butetown, y gorffennol, presennol, a'r dyfodol
Keith Murrell, arweinydd Carnifal eiconig Butetown yng Nghaerdydd, yn archwilio ei orffennol astrus a dyfodol disglair i ddathlu cymuned amlddiwylliannol Butetown, a chyfeirio at y camsyniadau a'r anghyfiawnder a wynebwyd ar hyd y daith.
Addysg a Datblygiad
Addysg gynhwysol: deall yr hyn a olygwn (Cymru)
Ni waeth pa ysgol y byddwch yn eich canfod eich hun ynddi, bydd y ffordd y mae'n ymdrin ag addysg gynhwysol yn ffactor bwysig wrth bennu diwylliant ei hamgylchedd dysgu ac addysgu.
Addysg a Datblygiad
Gwaith Tîm: Hyfforddiant i Lywodraethwyr (Cymru)
Mae llywodraethwyr yn chwarae rôl hanfodol yn y system addysg yng Nghymru fel rhan o waith tîm ehangach tuag at yr un nod: sicrhau bod plant yng Nghymru yn cael addysg ardderchog.
Addysg a Datblygiad
Cyflwyniad i arweinyddiaeth i lywodraethwyr (Cymru)
Mae'r cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad byr i faes cynhwysiant addysgol. Gallwch hefyd weld y cyrsiau eraill yn y casgliad hwn Cyflwyniad i arweinyddiaeth i lywodraethwyr a Gwaith tîm: cyflwyniad i lywodraethwyr ysgol.
Cymdeithas, Gwleidyddiaeth a’r Gyfraith
Y Gymru Gyfoes
Drwy edrych ar wahaniaethau a chysylltiadau, mae'r cwrs yn gofnod awdurdodol a diweddar o economi, cymdeithas, gwleidyddiaeth a diwylliant Cymru gyfoes ac mae'n cynnwys amrywiaeth eang o astudiaethau achos diddorol.
Addysg a Datblygiad
Cynorthwywyr addysgu: Cymorth ar waith
Mae cynorthwywyr addysgu yn adnodd pwysig ym myd addysg. Mae'r uned hon yn edrych ar sut mae'r rôl wedi datblygu ledled y DU dros amser. Mae'n ystyried y sgiliau a'r nodweddion y mae cynorthwywyr addysgu yn eu defnyddio er mwyn rhoi cymorth effeithiol a chyfrannu at waith tîm cynhyrchiol.
Iechyd, Chwaraeon a Seicoleg
Gofalu am oedolion
Mae gofalu am oedolion yn gwrs rhagarweiniol i unrhyw un sydd â rôl ofalgar, naill ai'n daladwy neu'n ddi-dāl. Mae'n adeiladu ar yr hyn yr ydych eisoes yn ei wybod i roi gwell dealltwriaeth i chi o'ch rôl fel gofalwr. Mae hefyd yn cefnogi'ch lles eich hun trwy roi syniadau a gwybodaeth i chi am ofalu amdanoch eich hun a delio â straen.
Iechyd, Chwaraeon a Seicoleg
Cyflwyniad i waith cymdeithasol yng Nghymru
Mae parchu hunaniaeth pob person yn un o werthoedd canolog gwaith cymdeithasol ond, fel y mae'r term yn awgrymu, mae gwaith cymdeithasol yn golygu mwy na safbwyntiau unigol: mae hefyd yn digwydd o fewn cyd-destun cymdeithasol. Mae cymdeithas, demograffi, daearyddiaeth, deddfwriaeth genedlaethol, polisi cenedlaethol ac iaith oll yn chwarae rhan bwysig, ym mywydau defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr ac ymarfer gweithwyr cymdeithasol. Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno i bwysigrwydd cydnabod bod ymarfer gwaith cymdeithasol yn digwydd mewn cyd-destun. Yn benodol, byddwch yn dysgu beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer gwaith cymdeithasol yng Nghymru - yn y cyd-destun Cymreig.
Iechyd, Chwaraeon a Seicoleg
Storïau unigol: safbwyntiau ar waith cymdeithasol
Yn y gyfres hon o bedwar cyfweliad, byddwch yn gwylio defnyddiwr gwasanaeth, gofalwr, gweithiwr cymdeithasol a rheolwr gwaith cymdeithasol yn siarad am eu profiadau gwahanol. Bydd y cyfweliadau'n dangos pwysigrwydd gwrando ar storïau pobl, pwysigrwydd cydberthnasau mewn ymarfer gwaith cymdeithasol a phwysigrwydd cyd-destun yr ymarfer gwaith cymdeithasol. Byddwch yn ystyried cwestiynau am y cyfweliadau ac yn myfyrio ar oblygiadau'r hyn sydd gan yr unigolion i'w ddweud ar gyfer ymarfer.
Iechyd, Chwaraeon a Seicoleg
Beth amdana i? Cwrs datblygiad personol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru
Cwrs datblygiad personol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru yw hwn. Bydd yn eich helpu i nodi a myfyrio ar eich profiadau, eich diddordebau a'ch sgiliau a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i ddatblygu cynllun gweithredu personol i'w roi ar waith ar ôl i'r cwrs ddod i ben. Mae'r cwrs, a ddatblygwyd gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, yn cynnwys astudiaethau achos gan ofalwyr go iawn sy'n rhannu eu profiadau a'u myfyrdodau.
Cymdeithas, Gwleidyddiaeth a’r Gyfraith
OpenLearn Cymru ewch â'ch dysgu ymhellach
Gallwch symud ymlaen o ddysgu anffurfiol am ddim i astudio’n ffurfiol gyda chyrsiau prifysgol sy’n arwain at gymwysterau proffesiynol.
Arian a Busnes
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Beth yw'r materion pwysig i'w hystyried wrth ddechrau neu redeg busnes bach mewn amgylchedd gwledig? Bydd yr uned astudio hon yn eich cyflwyno i rai syniadau a modelau a fydd yn eich helpu i weithio allan yr hyn rydych am ei wneud gyda'ch syniad busnes ac ystyried effaith byw mewn lleoliad gwledig.