Raymond Williams a Leonardo Sciascia
Eleni rydym yn dathlu can mlynedd ers geni Raymond Williams a Leonardo Sciascia, dau ysgolhaig, beirniad a nofelydd eithriadol. Fel ysgolheigion adain chwith, roeddent yn canolbwyntio'n bennaf ar siâp cymdeithasau yn y cyfnod modern: sef diwylliannau, democratiaethau a chanolfannau pŵer. Bu'r ddau ddyn yn enwog yn fyd-eang o ganlyniad i'w gwaith, ond man cychwyn eu meddylfryd, a'r pwynt y byddent yn dychwelyd ato bob amser, oedd profiad bywydau sy'n deillio o'r ymylon, ac sy'n rhychwantu ffiniau gwahanol fydoedd.
Bu'r ddau ddyn yn enwog yn fyd-eang o ganlyniad i'w gwaith, ond man cychwyn eu meddylfryd, a'r pwynt y byddent yn dychwelyd ato bob amser, oedd profiad bywydau sy'n deillio o'r ymylon, ac sy'n rhychwantu ffiniau gwahanol fydoedd.Roedd profiadau cynnar Raymond Williams o gael ei fagu mewn pentref yn agos at y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn codi'n aml yn ei waith ffuglennol a ffeithiol. Ei dad, a fu'n gweithio fel signalwr rheilffordd, oedd un o brif ffynonellau ei nofelau cynnar, yn benodol Border Country, a'i ddatblygiad deallusol fel myfyriwr o Gymru a drodd yn academydd yn awyrgylch neilltuedig Prifysgol Caergrawnt oedd yn llywio ei waith arloesol ar ddiwylliant.
Un o Racalmuto roedd Leonardo Sciascia, pentref dosbarth gweithiol bach ym mherfeddion bryniau talaith Agrigento yn Sisili, lle roedd ei dad yn gweithio yn y mwyngloddiau sylffwr. Roedd yr amgylchedd hwnnw, y bobl, y tir a'r diriogaeth yn themâu a fyddai'n parhau yn ei waith drwy gydol ei oes. Ni adawodd y lle byth mewn gwirionedd, heblaw am y cyfnodau byr a dreuliodd yn Rhufain, Palermo ac yn nes ymlaen fel aelod o Senedd Ewrop. Roedd ei lyfr, La Parrocchie de Regalpetra (a gyhoeddwyd yn Saesneg dan yr enw Salt in the Wound) yn seiliedig ar ei brofiad o weithio fel athro ysgol yn ei dref enedigol. Roedd ei ddisgrifiadau o dlodi, ffasgiaeth a llygredigaeth yn yr Eglwys a neuadd y dref yn seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn, a byddent yn ffurfio themâu pwysig yn ei weithiau diweddarach.
Addysg oedd yn llywio ymdrechion y ddau ddyn i ymchwilio i ddiwylliannau ehangach. Roedd dylanwad y myfyrwyr allanol y bu Williams yn eu haddysgu yn Sussex ar ei weithiau ar ddiwylliant yr un mor bwysig â dylanwad ei fyfyrwyr israddedig ieuangach, cyfoethocach y bu'n eu haddysgu yng Nghaergrawnt. Mae rhai o weithiau gorau'r ddau ddyn yn deillio o ddiwedd y 1950au a dechrau'r 1960au, pan roedd cymdeithasau Ewrop ar ôl y rhyfel yn cael eu nodweddu gan dwf diwylliant dosbarth gweithiol poblogaidd, rôl gynyddol y wladwriaeth a chyfyngiadau'r Rhyfel Oer. Cafodd Culture and Society, gwaith arloesol Williams sy'n ystyried hanes llenyddol y DU, ei gyhoeddi yn 1958, a chyhoeddwyd ei draethawd ‘Culture is Ordinary’ yn yr un flwyddyn. Aeth Williams ymlaen i ddatblygu ei ddadl yn y gweithiau hyn, sef bod diwylliant yn ymwneud â phethau pob dydd, ei fod yn rhywbeth a gaiff ei fyw, a'i fod yn fwyfwy pwysig ym meysydd datblygol ffilm, teledu a hysbysebu, ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach yn ei lyfr The Long Revolution. Yn y gwaith hwn roedd yn dadlau y byddai'r chwyldroadau diwylliannol hyn yr un mor bwysig â'r chwyldroadau democrataidd a diwydiannol a welwyd yn flaenorol. Rhwng y ddau lyfr hyn cyhoeddwyd Border Country, ei nofel sydd â'i gwreiddiau yn y Mynyddoedd Duon sy'n trafod y newidiadau a brofodd fel dyn ifanc a adawodd y gymuned y'i magwyd ynddi er mwyn symud i Lundain, ac a ddychwelodd adref i ardal oedd yn dal i adfer ar ôl y Streic Gyffredinol a Dirwasgiad y 1930au.
Roedd Williams a Sciascia yn perthyn i genhedlaeth adain chwith, wrth-ffasgaidd y 1930au, ac roedd y ddau yn aelodau o bleidiau comiwnyddol eu priod wledydd.Yn yr un cyfnod, yn dilyn Le Parrocchie di Regalpetra (1956), cyhoeddodd Sciascia Sicilian Uncles (1958), sef casgliad o nofelau byr sy'n portreadu'r ffordd y caiff pŵer ei arfer ar adegau tyngedfennol, gan gynnwys ymosodiad y Cynghreiriaid ar Sisili, a'r rhagolygon ar gyfer dyfodol yr ynys o safbwyntiau gwahanol (a dychmygol) Sisiliaid Americanaidd a Sisiliaid comiwnyddol. Fodd bynnag, y gwaith a fu'n fwyaf cyfrifol am ennill cydnabyddiaeth i Sciascia oedd The Day of the Owl (1961), drwy ddod â'r Maffia – yr oedd gwleidyddwyr a throseddwyr ar y pryd yn dal i fynnu nad oedd yn bodoli – at sylw'r cyhoedd ehangach. Drwy gymeriad Capten Bellodi, un o swyddogion ymchwilio'r heddlu yng ngogledd yr Eidal, archwiliodd y diwylliant, y meddylfryd a'r cyd-destunau gwleidyddol a oedd yn galluogi'r Maffia i ffynnu, gan nodi'r senarios cyfarwydd a oedd yn nodweddiadol o'u ffordd o weithio. Yn y gwaith hwn, yn ogystal â'i nofelau ditectif byr eraill (oedd yn aml yn gorffen mewn modd amhendant, heb ddiweddglo hapus), awgrymodd fod angen gwybod am hanes a diwylliant Sisili er mwyn deall y Maffia.
Roedd Williams a Sciascia yn perthyn i genhedlaeth adain chwith, wrth-ffasgaidd y 1930au, ac roedd y ddau yn aelodau o bleidiau comiwnyddol eu priod wledydd. Ni wnaeth Williams, a fu'n gymrawd i Eric Hobsbawm yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr israddedig, aros yn hir yn y blaid fach Brydeinig. Ond daeth yn ffigur pwysig yn y Chwith Newydd a gododd yn sgil anghydfodau yn y byd comiwnyddol yn 1956, ac a fu'n gyfrifol am gynhyrchu nifer o ddadansoddiadau dylanwadol o gyfalafiaeth ddatblygedig yn y Gorllewin. Ef oedd un o brif awduron May Day Manifesto (ar y cyd â Stuart Hall ac E.P. Thompson), a gyhoeddwyd ar drothwy'r afreolaeth gan fyfyrwyr a gweithwyr a welwyd yn 1968, ac a gyflwynodd feirniadaeth radicalaidd am gyfalafiaeth gyfoes yng nghyfnod llywodraethau Llafur Harold Wilson.
Cerflun Sciascia yn Racalmuto
Roedd Sciascia, fel nifer o ysgolheigion Eidalaidd ar ôl y rhyfel (gan gynnwys ei ffrindiau Italo Calvino a Pier Paolo Pasolini) yn aelod o Blaid Gomiwnyddol yr Eidal, ac ar un adeg ef oedd cynghorydd dinas Palermo ar ôl cael ei ethol fel ymgeisydd y blaid honno. Yn aml, caiff yr ymdeimlad o obaith i Sisili a welir yn ei waith, sydd â'i wreiddiau yn yr ymdrech i ganfod gwirionedd sy'n nodweddiadol o'r Oes Oleuedig, yn ogystal â'r awydd i gael ymdeimlad o beth yw gwladwriaeth, ei gyferbynnu â'r hyn a welir yn nofel ragorol Guiseppe Tomasi di Lampedusa, The Leopard, sy'n dangos hanes hir yr ynys o fod o dan reolaeth pwerau tramor, gan arwain at ymdeimlad o dynghediaeth ddidostur ar gyfer dyfodol yr ynys.
Fel ysgolheigion, nid oedd yr ymochredd a'r ymlyniadau sydd eu hangen yn y byd gwleidyddol yn gweddu iddynt (treuliodd Williams flwyddyn fel aelod o Blaid Cymru ar ddiwedd y 1960au), ond yn hwyrach yn eu bywydau, bu'r ddau yn cyfrannu mwy at drafodaethau cyhoeddus. Bu Williams yn brysur yn adolygu llyfrau, ysgrifennu traethodau a chynhyrchu darllediadau yn y cyfnod hwn. Mae rhai o'i syniadau mwyaf gwreiddiol i'w gweld yn Politics and Letters, sef cyfres o gyfweliadau a wnaed â'r New Left Review, lle bu'n ymhelaethu ar ei ddiddordebau ym meysydd drama, llenyddiaeth a gwleidyddiaeth. Ei fyfyrdodau ar yr helyntion, y bradychiadau a'r teyrngarwch croes a wynebodd rai o genhedlaeth y 1930au oedd yn sail i un o'i nofelau olaf, sef Loyalties: gwaith arall a oedd yn ymestyn ar draws ffiniau ei wahanol fydoedd.
Fel ei ffrind Pasolini, gadawodd Sciascia Blaid Gomiwnyddol yr Eidal, ac ymunodd â phlaid fach, wrthwynebol, sef y Blaid Radicalaidd. Daeth yn fwy amlwg yn y 1970au a'r 1980au drwy ei waith a oedd yn beirniadu pŵer a llygredigaeth y blynyddoedd plwm, pan oedd terfysgwyr adain chwith ac adain dde yn dal yr Eidal yn wystl, a thrais y Maffia yn peryglu'r wlad ymhellach. Roedd Sciascia yn ddidostur yn ei lyfr The Moro Affair, ei ymchwiliad ei hun i herwgipiad y cyn prif weinidog Aldo Moro gan y Frigâd Goch, lle cyflwynodd feirniadaeth lem o Giulio Andreotti ac aelodau pwysig eraill o'r Democratiaid Cristnogol, ddegawd cyn i'r blaid honno fynd i ebargofiant. Atgoffodd bobl yr Eidal nad oedd Moro na'r blaid yr oedd yn ei harwain erioed wedi magu ymdeimlad o beth yw gwladwriaeth. Dywedodd mai'r hyn sy'n denu o leiaf draean o bleidleiswyr yr Eidal at Blaid y Democratiaid Cristnogol yw'r ffaith gysurlon a chryfhaol, nad oes gan y blaid unrhyw syniad o beth yw'r wladwriaeth.
Fel ysgolheigion o'r ymylon, mae Williams a Sciascia yn parhau i ysbrydoli pobl. Roedd Williams yn hoff o ystyried ei hun yn Ewropead Cymreig, ac mae'r disgrifiad hwn wedi bod ar dwf yn sgil Brexit a'r trafodaethau dros ddyfodol y DU. Disgrifiodd Sciascia Sisili, sef ynys ar y ffiniau rhwng Ewrop ac Affrica, fel trosiad ar gyfer y byd modern. Mae'r disgrifiad hwnnw'n fwy perthnasol nawr nag erioed efallai, gan fod y cwestiynau am gyfiawnder, rheswm a diogelwch gwladwriaethol a godwyd ganddo yn gyntaf yng nghyd-destun Sisili bellach wrth wraidd nifer o broblemau byd-eang mewn oes sy'n cael ei nodweddu gan fudo torfol, troseddoldeb rhyngwladol a phandemig COVID-19.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon