3 Arweinyddiaeth a gwella ysgolion
Mae adroddiad helaeth Estyn Arweinyddiaeth a gwella ysgolion cynradd (2016) yn cynnwys cydnabyddiaeth bwysig bod gan bob ysgol le i wella ac mai arweinyddiaeth yw'r ffactor pwysicaf sy'n dylanwadu ar gyflymder, ansawdd a chynaliadwyedd gwelliant yr ysgol.
Mae'r adroddiad yn nodi bod angen arddulliau arwain gwahanol ar ysgolion sydd ar gamau gwahanol yn eu datblygiad yn aml, a bod arweinwyr – ar bob cam o daith ddatblygiadol ysgol – yn chwarae rôl hanfodol wrth ddatblygu sgiliau proffesiynol eu staff a'u cefnogi.
Cymerir y sail dystiolaeth ar gyfer yr adroddiad hwn o arolygiadau o ysgolion cynradd ledled Cymru rhwng 2010 a 2015. Mae hefyd yn cynnwys model pedwar cam ar gyfer gwella ysgolion cynradd sy'n cynnig elfennau gwella generig y gellir eu trosglwyddo i addysg uwchradd.
Mae Arweinyddiaeth a gwella ysgolion cynradd yn nodi nodweddion cyffredin gwella ar bob cam:
Dyma lle mae arweinwyr yn:
- diffinio gweledigaeth a chyfeiriad strategol yr ysgol yn glir; mae'r weledigaeth hon yn datblygu wrth i'r ysgol wella
- sefydlu gwerthoedd ac ymddygiadau proffesiynol ymhlith staff i gefnogi gwelliant parhaus a gwaith tîm effeithiol
- sefydlu a chynnal diwylliant lle mae gwella safonau a llesiant i'r holl ddisgyblion yn brif flaenoriaeth
- sicrhau mai gwella addysgu yw'r broses allweddol sy'n cyfrannu at wella safonau
- darparu cwricwlwm sy'n diwallu anghenion pob disgybl yn llawn
- cynnal ffocws cyson ar wella llythrennedd disgyblion (yn Gymraeg ac yn Saesneg), sgiliau TGCh, a rhifedd (gan gynnwys sgiliau meddwl lefel uwch a sgiliau rhesymu)
- sicrhau bod datblygiad proffesiynol parhaus staff yn gwella ansawdd y ddarpariaeth a deilliannau disgyblion
- sicrhau bod pob aelod o'r staff (yn enwedig y rhai hynny mewn rolau rheoli) yn gyfrifol am ei faes gwaith
- sicrhau bod canlyniadau hunanwerthuso yn deillio o dystiolaeth uniongyrchol, a bod cysylltiad agos rhyngddynt â blaenoriaethau gwella'r ysgol
- darparu dadansoddiadau clir, dealladwy a gonest i lywodraethwyr o ran pa mor dda y mae'r ysgol yn perfformio, a'u hannog i herio achosion o dangyflawni.
Nawr dylech fynd ati i ddefnyddio'r nodweddion arweinyddiaeth hyn wrth i chi roi cynnig ar Weithgaredd 3.
Gweithgaredd 3: Nodweddion arweinyddiaeth Estyn
Edrychwch yn ofalus ar bob un o nodweddion arweinyddiaeth cyffredin Estyn.
Nawr ewch i'r ddwy bleidlais ar wefan y cwrs i nodi'r nodweddion mwyaf a lleiaf cyffredin yn eich ysgol, yn eich barn chi.
Ar ôl pleidleisio, byddwch yn gallu gweld yr hyn a ddewisodd dysgwyr eraill. Ewch i'r fforwm i drafod eich dewisiadau.
Nawr ystyriwch a fyddai'n bosibl ymdrin â'r nodweddion mewn ffordd ddefnyddiol a'u gwella yn eich sefydliad. Os felly, pa ddulliau arwain y byddai angen eu defnyddio er mwyn sicrhau bod hyn yn cael ei wneud yn y ffordd orau posibl?
(Os ydych chi am ddarllen mwy o Arweinyddiaeth a gwella ysgolion cynradd, mae ar gael ar wefan Estyn.)
Fe'ch gwahoddir i ystyried sut mae'r nodweddion hyn yn gweithio yn erbyn enghraifft o fywyd go iawn. cymerwch gip ar astudiaeth achos Ysgol Gynradd Parkland, ewch i'ch blog ar wefan y cwrs a chrëwch dabl â dwy golofn, yn debyg i'r un isod, a cheisiwch ddod o hyd i enghraifft o bob nodwedd o astudiaeth achos Parkland. Ceir cyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn o dan y tabl enghreifftiol.
Gweithgaredd 4: Nodweddion arweinyddiaeth Estyn ac astudiaeth achos Parkland
Ewch i flog Gweithgaredd 4 ar wefan y cwrs a chreu tabl â dwy golofn, yn debyg i'r un isod:
Nodwedd | Enghraifft o'r astudiaeth |
---|---|
Diffinio gweledigaeth a chyfeiriad strategol yr ysgol yn glir; mae'r weledigaeth hon yn datblygu wrth i'r ysgol wella | |
Sefydlu gwerthoedd ac ymddygiadau proffesiynol ymhlith staff i gefnogi gwelliant parhaus a gwaith tîm effeithiol | |
Sefydlu a chynnal diwylliant lle mae gwella safonau a llesiant i'r holl ddisgyblion yn brif flaenoriaeth | |
Sicrhau mai gwella addysgu yw'r broses allweddol sy'n cyfrannu at wella safonau | |
Darparu cwricwlwm sy'n diwallu anghenion pob disgybl yn llawn | |
Cynnal ffocws cyson ar wella llythrennedd disgyblion (yn Gymraeg ac yn Saesneg), sgiliau TGCh, a rhifedd (gan gynnwys sgiliau meddwl lefel uwch a sgiliau rhesymu) | |
Sicrhau bod datblygiad proffesiynol parhaus staff yn gwella ansawdd y ddarpariaeth a deilliannau disgyblion | |
Sicrhau bod pob aelod o'r staff (yn enwedig y rhai hynny mewn rolau rheoli) yn gyfrifol am ei faes gwaith | |
Sicrhau bod canlyniadau hunanwerthuso yn deillio o dystiolaeth uniongyrchol, a bod cysylltiad agos rhyngddynt â blaenoriaethau gwella'r ysgol | |
Darparu dadansoddiadau clir, dealladwy a gonest i lywodraethwyr o ran pa mor dda y mae'r ysgol yn perfformio, a'u hannog i herio achosion o dangyflawni |
Er mwyn creu tabl, ar ôl i chi glicio ar ‘Blog newydd’, cliciwch ar y botwm chwith uchaf ar y blwch neges i ddechrau:
Yna cliciwch ar y botwm ‘Table’:. Pan ofynnir i chi, crëwch dabl gydag 11 o resi a 2 golofn. (Nid oes angen i chi ychwanegu pennawd.)
(Os ydych chi am ddarllen mwy o Arweinyddiaeth a gwella ysgolion cynradd, mae ar gael ar wefan Estyn.)
Ar ôl ystyried astudiaeth achos Ysgol Gynradd Parkland yn wrthrychol, fe'ch cynghorir i gynnal gweithgaredd myfyriol tebyg ar gyfer eich ysgol eich hun. Gallech greu tabl arall yn eich blog er mwyn gwneud hyn. Dylai hwn fod yn ymarfer cymharu diddorol.
2 Cyd-destun Arweinyddiaeth yng Nghymru