1 Beth yw arweinyddiaeth addysgol?

Mae arweinyddiaeth yn fater cymhleth: mae llu o gyhoeddiadau wedi'u hysgrifennu ar y pwnc. Dylid nodi o'r cychwyn cyntaf nad oes un ffordd gywir o arwain ac nad oes unrhyw atebion cyflym na rysáit hawdd ar gyfer datrys heriau arweinyddiaeth addysgol.

Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno rhai o'r adnoddau a'r syniadau academaidd a fydd yn eich helpu i ddatblygu safbwynt critigol o ran dulliau arwain yn eich cyd-destun eich hun. Mae pob un ohonom wedi profi arweinyddiaeth eraill yn ein bywydau proffesiynol a phersonol, a bydd gan bob un ohonom farn o ran pa weithredoedd, ymddygiadau a strategaethau arwain a all fod eu hangen mewn sefyllfa benodol.

Fodd bynnag, gall ystyr termau fel ‘arweinyddiaeth’, ‘arwain’, ‘gweinyddu’ neu ‘rheoli’ beri dryswch mewn sefydliadau. Dros amser, mae enwau rolau wedi datblygu er mwyn adlewyrchu faint o arweinyddiaeth sy'n ddisgwyliedig. Mae ysgolion yn defnyddio termau fel:

  • ‘rheolwyr canol’
  • ‘arweinwyr pwnc’
  • ‘arweinwyr dysgu’
  • ‘uwch dimau rheoli’
  • ‘uwch dimau arwain’.

Yr hyn a dderbynnir yn gyffredinol yw bod:

  • llawer o weithwyr proffesiynol yn arwain
  • sawl aelod o sefydliad yn gallu cyflawni tasgau arweinyddiaeth, gydag awdurdod swydd a hebddo.

Mae llawer o rolau yn gyfuniad o ‘arwain’ a ‘rheoli’, a bydd y pwyslais yn amrywio o berson i berson ac o sefydliad i sefydliad. Mae arwain wedi cael ei ddisgrifio fel gweithio gyda phobl er mwyn newid ymddygiadau, agweddau a gwerthoedd, tra bo rheolwyr yn fwy tebygol o gynnal perfformiad pobl a systemau. Fodd bynnag, o safbwynt academaidd, mae arweinyddiaeth a rheolaeth addysgol yn parhau i fod yn gysyniadau dadleuol!

Gweithgaredd 1: Arwain a Rheoli

Timing: Caniatewch tua 30 munud

Ystyriwch y strwythurau ‘arwain a rheoli’ mewn sefydliad sy'n gyfarwydd i chi. Pwy sy'n ymddangos fel petai'n gyfrifol am arwain fel rhan o'i rôl a pha dystiolaeth sydd gennych chi i gefnogi'r farn hon?

Meddyliwch am rai enghreifftiau o newid yn eich ysgol sydd o ganlyniad uniongyrchol neu anuniongyrchol i arferion arwain da a'u rhestru. Eto, pa dystiolaeth sydd gennych chi i gefnogi eich barn?

Cofnodwch eich meddyliau mewn blog ar wefan y cwrs. [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]

2 Cyd-destun Arweinyddiaeth yng Nghymru