5 Arwain datblygiad dysgu proffesiynol
Un o'r rolau allweddol ar gyfer arweinwyr yw cefnogi dysgu proffesiynol pobl eraill. Ynghyd â bod yn un o nodweddion cyffredin gwella yn adroddiad Estyn Arweinyddiaeth a gwella ysgolion cynradd, mae gan ddatblygiad dysgu proffesiynol effeithiol nifer o ganlyniadau cadarnhaol posibl ar gyfer yr unigolyn a'r sefydliad. Mae hyn yn cynnwys y posibilrwydd o ganlyniadau gwell i ddysgwyr, sy'n flaenoriaeth ar gyfer unrhyw ysgol.
Mae'n bwysig bod gweithgarwch dysgu proffesiynol yn gyson â nodau'r sefydliad. Gellir ei ddiffinio a gall godi mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys:
- datblygiad proffesiynol parhaus
- hyfforddiant mewn swydd
- mentora
- cymunedau dysgu proffesiynol
- hyfforddi.
Mae'n bwysig deall y gellir defnyddio pob un o'r dulliau gweithredu hyn; ond mae yr un mor bwysig ystyried ansawdd y profiad a sut i werthuso effaith y gweithgarwch.
Dylid ystyried hyn wrth gynllunio'r gweithgarwch, er mwyn sicrhau bod adnoddau ariannol a gaiff eu buddsoddi mewn dysgu proffesiynol yn gost effeithiol ac yn strategol. Yn hanesyddol, roedd gan sawl math o gyrsiau proffesiynol ffordd uniongyrchol o'u gwerthuso, yn aml ar ffurf taflen i'w thicio gydag ychydig o sylwadau. Ar y cyfan, roedd hyn yn eithaf arwynebol a chyfeiriodd rhai academyddion at hyn fel ‘taflen hapus’. Dim ond gwybodaeth argraffiadol ac anecdotaidd fyddech chi'n ei chael o'r taflenni hyn, heb unrhyw ystyriaeth o effaith dros amser.
Erbyn hyn ceir dulliau gweithredu manylach ar gyfer gwerthuso dysgu proffesiynol: mae'r rhain yn cynnwys model Thomas R. Guskey sy'n ystyried y gellir cyflawni effaith datblygiad dysgu proffesiynol ar bum lefel bosibl:
- ymateb cydweithwyr
- dysgu cydweithwyr
- cymorth a newid sefydliadol
- defnydd cyfranogwyr o wybodaeth a sgiliau newydd
- deilliannau dysgu disgyblion.
Yn ôl Guskey, prif nod datblygiad proffesiynol yw gwella deilliannau i ddisgyblion. Mae'n awgrymu mai'r dull gweithredu synhwyrol yw dechrau ble yr hoffech fod a gweithio drwy'r lefelau, gan gadw deilliant posibl y disgybl mewn cof bob amser. Felly wrth werthuso datblygiad dysgu proffesiynol, ‘deilliannau dysgu'r disgyblion’ yw'r ystyriaeth gyntaf a'r bwysicaf, ac ‘ymateb y cyfranogwyr’ - y ‘daflen hapus’ - sydd leiaf pwysig.
Mewn geiriau eraill: caiff y datblygiad proffesiynol ei lywio gan anghenion y disgyblion.
Gweithgaredd 8: ‘A yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth?’
Darllenwch erthygl Guskey, ‘Does it make a difference?’ [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , sy'n esbonio'r dull gweithredu hwn yn fanylach.
Myfyriwch ar ddatblygiad dysgu proffesiynol rydych chi wedi'i brofi'n bersonol neu rydych chi'n ymwybodol ohono. Pa fath o werthusiad a gafwyd, ac a fyddai cynnwys dull gweithredu pum cam Guskey wedi gallu gwella ansawdd y profiad? Os felly, ym mha ffordd?
4 Mathau o arweinyddiaeth