Cyflwynir y bathodyn hwn am gymryd rhan yn y gweithgareddau ar y cwrs Academi Arian MSE. Roedd y cwrs hwn yn cefnogi arddangos y deilliannau dysgu canlynol: cyllidebu’n effeithiol a gwybod sut i wneud penderfyniadau gwario da; deall sut caiff incwm ei drethu; deall sut a phryd i fenthyca arian mewn modd cyfrifol
deall cynnyrch cynilo a buddsoddi – gan gynnwys y gwahanol risgiau sydd ynghlwm â nhw; cynllunio ar gyfer ymddeoliad a gwybod beth i’w wneud os nad yw pensiwn disgwyliedig yn ddigonol. Gallwch adolygu'r cwrs hwn trwy’r ddolen ganlynol: https://www.open.edu/openlearn/money-business/academi-arian-mse/content-section-overview Nid yw'r bathodyn yn cynrychioli credyd neu ddyfarniad ffurfiol gan Y Brifysgol Agored. Mae'n arddangos eich bod wedi cymryd rhan mewn gweithgaredd dysgu anffurfiol.