Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi adfyfyrio ar bwy ydych chi fel arweinydd hybrid a sut rydych chi eisiau datblygu. Bydd yn eich helpu i ddeall sut i ddangos empathi â'ch gweithlu a sut i addasu eich sgiliau cyfathrebu wrth weithio yn y swyddfa ac wrth weithio o bell. Bydd yn eich annog i ddechrau meddwl sut y gallwch ysgogi eich gweithle i ffynnu yn y byd hybrid newydd hwn a beth y gallwch chi ei wneud i'w helpu i ddatblygu a theimlo'n ddiogel.