Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer trawsnewid digidol
Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer trawsnewid digidol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Mae dyfodol y gweithle'n parhau i ddatblygu, ac mae trawsnewid digidol yn cyflymu, gan ofyn am alluoedd, ymddygiadau a dealltwriaeth newydd yn y maes digidol. Mae'r rhaniad digidol wedi bod yn ehangu ac mae data'n dangos bod y bwlch sgiliau yn y DU yn tyfu gyda phrinder pobl â sgiliau digidol.
Mae gan bron bob swydd ryw elfen o sgiliau digidol ac arweinyddiaeth, ac os nad oes ganddi'r elfen honno eto, byddai'n ddoeth paratoi i'r dyfodol a sicrhau eich cyflogadwyedd drwy gofleidio sgiliau digidol.
Dim ots pa oedran, sector neu broffil gweithio sydd gennych, mae'r cwrs hwn yn cwmpasu'r sgiliau a'r wybodaeth hanfodol sydd eu hangen arnoch er mwyn trawsnewid yn ddigidol a ffynnu mewn byd digidol. Gallai rhai deimlo eu bod yn dysgu iaith newydd ac yn deall am ddiwylliannau digidol newydd, ond i eraill gallai ymwneud yn llawer mwy â deall a datblygu eich galluoedd digidol presennol.