Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
  • Fideo
  • 5 munud

Awgrymiadau ar gyfer dychwelyd i’r byd addysg

Diweddarwyd Dydd Mercher, 14 Mehefin 2023

Mae myfyrwyr addysg uwch yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro yn rhannu eu hawgrymiadau ynghylch sut i baratoi i ddychwelyd i’r byd addysg ar ôl egwyl.

Nid yw dychwelyd i'r byd addysg ar ôl egwyl, waeth am ba mor hir, yn hawdd. Waeth beth yw eich rheswm dros gymryd seibiant, mae yna ffyrdd y gallwch sicrhau bod eich profiad addysg y tro hwn yn un positif.

Mae myfyrwyr Addysg Uwch o Goleg Caerdydd a’r Fro, sydd wedi canfod eu llwybrau eu hunain yn ôl i’r byd addysg, yn rhannu eu hawgrymiadau ardderchog.


Dogfen PDF Trawsgrifiad 116.8 KB


1. Cynllunio eich wythnosau

Efallai eich bod â nifer o flaenoriaethau sy'n cystadlu yn eich bywyd, fel swyddi neu ymrwymiadau teuluol, ac ni ellir symud rhai ohonynt. Mae nifer o fyfyrwyr yn wynebu’r her hwn. Peidiwch â chynhyrfu! Lluniwch gynllun realistig er mwyn dynodi amser astudio yn eich amserlen wythnosol.

2. Gofyn am gymorth

Peidiwch â bod ofn gofyn am gymorth pan fo angen. Nid oes y fath beth â chwestiwn gwirion. Mae’n siŵr bod nifer o bobl eraill yn pendroni’r un peth.

3. Dathlu eich sgiliau blaenorol

Nid ydych wedi’ch gadael ar ôl. Rydych wedi datblygu llu o sgiliau mwy meddal, felly manteisiwch ar y sgiliau hynny a’ch profiadau.

4. Gloywi eich sgiliau academaidd

Defnyddiwch eich amser ymlaen llaw er mwyn gwella eich sgiliau astudio, fel ymchwilio a chyfeirio. Bydd hyn yn eich helpu i deimlo’n fwy parod. Mae canllawiau astudio ar gael o hyd i’ch helpu ar hyd y ffordd. Bydd gan y rhan fwyaf o lyfrgelloedd adnoddau i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau academaidd.

5. Mynd i’r arfer o ddarllen

Gall hyn fod yn unrhyw beth! Bydd dechrau meddwl am yr hyn rydych yn ei ddarllen mewn ffordd fwy beirniadol yn cynorthwyo â’ch astudiaethau.


university ready - white back

Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.

Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?