Mae'n ymddangos bod dysgu yn broses o gymryd gwybodaeth i mewn a'i threulio. Rydym yn darllen, clywed neu weld rhywbeth ac mae ein hymennydd yn prosesu'r hyn y mae'n ei wynebu. Yn ddelfrydol, byddwn yn cofio'r darn hwnnw o wybodaeth ac yn gallu ei ddefnyddio mewn sefyllfa briodol yn y dyfodol.
Nawr, y dull orsyml hwnnw o ddysgu yw cam cyntaf astudio hefyd yn sicr. Fodd bynnag, er mwyn bod yn llwyddiannus yn ein hastudiaethau, mae angen i ni wneud mwy na dim ond casglu ac ailadrodd gwybodaeth. Mae angen i ni allu asesu gwerth y wybodaeth, ei chywirdeb a'i chyfraniad at unrhyw drafodaeth. Yn ddelfrydol, byddwn yn gallu ei rhoi mewn cyd-destun ag agweddau eraill ar ein gwybodaeth, hefyd. Dyma beth sy'n ein gwneud yn fyfyrwyr, dyma beth sy'n ein gwneud yn feddylwyr beirniadol.
Nid yw meddwl yn feirniadol yn un sgil unigol; yn hytrach mae'n ganlyniad nifer o sgiliau yn cael eu cymhwyso yn effeithiol. Er mwyn gallu meddwl yn feirniadol, bydd angen i chi allu rhesymu. Bydd angen i chi allu asesu ffynhonnell y wybodaeth a roddir i chi a byddwch yn gallu myfyrio ar ei chywirdeb neu ei dilysrwydd, yn dibynnu ar eich tasg.
Drwy feddwl yn feirniadol, byddwch yn cymhwyso pob un o'r sgiliau hynny er mwyn gwerthuso'r wybodaeth o'ch blaenau. Gall hyn fod yn ddamcaniaeth, yn ganlyniad ymchwil newydd, neu hyd yn oed yn eitem newyddion. Mae meddwl yn feirniadol yn caniatáu i chi ddysgu mewn ffordd wrthrychol, yn hytrach na naill ai dilyn y wybodaeth arfaethedig a roddir i chi neu eich barn eich hun yn oddrychol, yn hytrach na dadleuon a ffeithiau clir a darbwyllol.
Mae meddwl yn feirniadol yn broses o werthuso a myfyrio yn barhaus. Mae ar ei fwyaf pwerus pan fydd yn gwneud i ni ein hunain neu bobl eraill newid barn.
Dyma lle mae meddwl yn feirniadol yn dod yn berthnasol y tu allan i fyd astudio. Drwy fod yn feirniadol o'r hyn rydym yn ei ddarllen, ei glywed a'i weld, rydym yn ymgysylltu â'r gymdeithas rydym yn byw ynddi yn weithredol. Nid ydym yn derbyn pethau'n ddi-gwestiwn, ond yn hytrach rydym yn myfyrio ar werth a chywirdeb y ffordd mae cymdeithas yn gweithio.
Mae hyn yn ein helpu i fod yn gyflogeion gwell, drwy fyfyrio ar ble y gellir gwella prosesau a ffyrdd o weithio. Mae'n ein helpu i fod yn ddinasyddion sy'n talu sylw, am ein bod yn myfyrio ar ymgyrchoedd gwleidyddol a'u gwirionedd a'u gwerth i ni pan ofynnir i ni gymryd rhan mewn etholiad. Mae meddwl yn feirniadol yn gwthio ni ein hunain a'n hamgylchedd i addasu a gwella yn barhaus.
Pan fyddwch yn meddwl yn feirniadol, byddwch yn agor ffordd newydd sbon o ymgysylltu â'r byd o'ch amgylch.
Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.
Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon