Beth yw syndrom ffugiwr?
Gellir diffinio syndrom ffugiwr fel anallu i hunanasesu eich perfformiad yn gywir. Gall arwain atom yn credu nad ydym yn haeddu ein llwyddiannau a gwneud inni amau ein galluoedd.
Sut ydych chi’n goresgyn eich syndrom ffugiwr?
Nid oes un ffordd benodol o fesur llwyddiant – bydd syniad pawb o lwyddiant yn wahanol. Chi eich hun yw’r unig berson sydd mewn cystadleuaeth â chi. Felly gofynnwch i'ch hun - a ydych chi’n gwneud eich gorau? Mae myfyrwyr Addysg Uwch o Goleg Caerdydd a’r Fro, sydd wedi goresgyn eu hunan-amheuaeth eu hunain, yn rhannu eu hawgrymiadau.
1. Siarad â ffrind
Nid yw eich teimladau’n unigryw bob amser. Mae’n debygol y bydd pobl eraill wedi profi teimladau tebyg o hunan-amheuaeth. Gall rhannu hyn fod o gymorth.
2. Atgoffa eich hun o ba mor dda ydych chi
Rydych wedi dod mor bell – ac mae rheswm am hynny! Myfyriwch ar eich cyflawniadau, waeth pa mor fach. Mae eich gwaith a'ch taith hyd yma wedi’ch arwain i’r pwynt hwn – sy’n golygu eich bod yn ddigon da.
3. Ymuno â grwpiau cymdeithasol
Mae gan brifysgolion grwpiau cymdeithasol i’ch helpu i gwrdd â phobl newydd sy’n rhannu’r un diddordebau. Maent yn cynnig cyfle i rannu rhai o’ch pryderon a chwrdd â phobl newydd cyn ichi hyd yn oed ddechrau.
4. Dychmygu llwyddiant
Cofiwch beth rydych yn gweithio amdano. Dylech atgoffa eich hun pam eich bod ar y llwybr hwn, a lle fyddwch yn cyrraedd os ydych yn canolbwyntio ar hyd y ffordd.
5. Dathlu eich methiannau
Gall pethau fynd o chwith bob hyn a hyn, gyda methiannau a heriau’n codi ar hyd y ffordd. Yn ôl y sôn, rydych yn dysgu mwy drwy fethu, felly peidiwch â’i ystyried fel rhywbeth negyddol, yn hytrach, mae’n gyfle i ddysgu ac i wella.
Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.
Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr fideo hon
Adolygwch yr fideo hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Fideo hon