Cwrs datblygiad personol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru yw hwn. Bydd yn eich helpu i nodi a myfyrio ar eich profiadau, eich diddordebau a'ch sgiliau a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i ddatblygu cynllun gweithredu personol i'w roi ar waith ar ôl i'r cwrs ddod i ben.
Mae'r cwrs, a ddatblygwyd gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, yn cynnwys astudiaethau achos gan ofalwyr go iawn sy'n rhannu eu profiadau a'u myfyrdodau.
Deilliannau dysgu'r cwrs
Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:
- gwell dealltwriaeth o'ch profiadau fel gofalwr a hefyd yn eich rolau ehangach
- dealltwriaeth o'r sgiliau amrywiol rydych wedi'u datblygu fel gofalwr ac yn eich rolau ehangach a sut y gellir eu trosglwyddo i sefyllfaoedd eraill
- gwerthfawrogiad o rinweddau personol a ddatblygwyd drwy eich rôl ofalu
- cyfle i feddwl am eich nodau a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol
- syniad o sut y gallech weithio tuag at y nodau hynny a ble y gallech gael help a chefnogaeth
- y gallu i ddefnyddio technoleg gwybodaeth (TG) er mwyn cyflawni gweithgareddau myfyriol o ran ysgrifennu a chyfathrebu
- y gallu i ddefnyddio'r we er mwyn dod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol
- y gallu i archwilio a defnyddio ffyrdd newydd o fynegi syniadau.
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/08/2019
Wedi'i ddiweddaru: 01/05/2020