Egluro eich nodau
Mae cynllunio gyrfa yn cymryd amser! Os ydych yn ystyried gyrfa newydd, neu efallai am wybod i ba gyfeiriad y gallai astudiaethau pellach a chymwysterau eich arwain, efallai y byddwch am ymchwilio i adnoddau eraill cyn nodi nodau posibl ar gyfer y dyfodol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chyngor gan Gyrfa Cymru [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] neu Wasanaeth Cyngor Gyrfaoedd Y Brifysgol Agored.
Hefyd, ceir adran Rhagor o wybodaeth ar ddiwedd y cwrs, sydd â dolenni gwybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer rhagor o adnoddau a chymorth.
Efallai mai eich nod yw dechrau gyrfa newydd, dilyn cwrs astudio, dysgu sgil newydd neu wella eich sefyllfa - beth bynnag sy'n teimlo'n iawn i chi ar hyn o bryd. Nodwch unrhyw bwyntiau lle mae angen rhagor o wybodaeth arnoch yn eich barn chi, fel sgiliau astudio, cyllid a ffioedd neu ddewis o gyrsiau, er enghraifft - bydd y dolenni uchod yn eich helpu. Cadwch eich nodiadau'n ddiogel oherwydd bydd y rhain yn eich helpu gyda'ch cynlluniau ac wrth gwblhau'r cwrs.
Rydych wedi clywed gan James drwy gydol y cwrs. Nawr gwrandewch ar James yn siarad am ei brofiad o astudio'n rhan-amser tra'n gofalu.
James: bywyd, gwaith ac astudio

Transcript
Claire: bywyd, gwaith ac astudio

Transcript
Wrth i chi wrando ar James a Claire, a wnaethoch sylwi a oeddent bob amser yn siŵr o'r hyn roeddent am ei wneud? Er bod James am wneud gradd Meistr, nid oedd wedi bwriadu dilyn cwrs ôl-raddedig yn wreiddiol. Roedd Claire wedi rhoi cynnig ar wahanol lwybrau addysg cyn iddi ddarganfod ei bod yn mwynhau iaith arwyddion ac mae bellach yn gweithio tuag at gymhwyster yn y maes hwnnw.
Weithiau ni fydd dewis gennym ond newid cyfeiriad neu gyflawni nod. Clywsom yn gynharach sut bu'n rhaid i James adael ei swydd lawn-amser er mwyn gofalu. Gwneir newidiadau neu ddewisiadau eraill yn wirfoddol, er enghraifft os byddwn yn mwynhau pwnc penodol neu fod gennym sgiliau mewn maes arall.
Myfyrio
A ydych eisoes yn gwybod beth rydych am ei wneud? A ydych wedi ystyried gwahanol bosibiliadau?
Gweithgaredd 4.2 Egluro fy nodau drwy ddelweddu
Efallai fod gennych ryw fath o syniad o'r cyfeiriad yr hoffech fynd iddo neu efallai eich bod yn dal i ystyried y peth. Pan fyddwn wedi cael profiadau anodd neu siomedig yn ein bywydau, gall y rhain effeithio ar ein hyder a sut rydym yn teimlo am y dyfodol.
Rydych wedi edrych ar eich sgiliau, rhinweddau a galluoedd ac mae gennych ryw fath o syniad o'r hyn sydd gennych i'w gynnig. Nawr gofynnwch i chi'ch hun:
- Ble ydw i nawr?
Beth ydw i'n ei wneud?
Treuliwch beth amser yn dychmygu eich hun yn y dyfodol. Gadewch i'ch hun feddwl bod posibiliadau ar gael i chi.
Ysgrifennwch frawddeg yn sôn am eich gobeithion ar gyfer y dyfodol. Efallai y bydd yn ddefnyddiol edrych dros y nodiadau a wnaethoch ar gyfer Gweithgaredd 4.1.
Gallwch ddefnyddio taflen Gweithgaredd 4.2 neu gadw hyn yn eich llyfr nodiadau
NEU
Ewch i Weithgaredd 4.2 o'ch Cofnod Myfyrio.
Gallwch rannu hyn neu ei gadw i chi'ch hun. Pan fyddwch wedi cwblhau'r gweithgaredd, gwnewch yn siŵr eich bod yn arbed y ddogfen eto.