Eich myfyrdod
Gweithgaredd 1.1 Meddwl amdanaf fy hun
I ddechrau arni, meddyliwch am y pedwar cwestiwn canlynol:
- Sut wyf yn gweld fy hun nawr?
- Beth ydw i'n fwyaf balch ohono?
- Beth sy'n fy ngwneud i'n hapus?
- Sut hoffwn i weld fy hun yn y dyfodol?
Cyn ceisio ateb y cwestiynau hyn, edrychwch ar yr enghreifftiau canlynol, sy'n dangos sut y gwnaeth Alana a James eu hateb.
Enghraifft 1: Alana
Gwyddom fod Alana wedi cwblhau Lefel 1 mewn Trin Gwallt a'i bod yn symud ymlaen i Lefel 2. Edrychwch ar dabl Alana er mwyn gweld beth mae Alana yn ei obeithio am y dyfodol a sut mae'n gweld ei hun nawr.
Sut wyf yn gweld fy hun nawr? | Beth sy'n fy ngwneud yn hapus? |
|
|
Beth ydw i'n fwyaf balch ohono? | Sut hoffwn i weld fy hun yn y dyfodol? |
|
|
Meddyliwch am y cwestiynau canlynol:
- A allwch uniaethu ag unrhyw beth mae Alana yn ei ddweud?
- A oes gennych unrhyw beth yn gyffredin?
- Beth sy'n wahanol am eich sefyllfa chi a'r ffordd rydych yn teimlo?
Enghraifft 2: James
Nawr edrychwch ar dabl James a gwrandewch arno'n disgrifio ei brofiadau.
Sut wyf yn gweld fy hun nawr? | Beth sy'n fy ngwneud yn hapus? |
|
|
Beth ydw i'n fwyaf balch ohono? | Sut hoffwn i weld fy hun yn y dyfodol? |
Wynebu caledi gyda gwên |
|

Transcript
Eich tabl
Nawr llenwch y blychau eich hun ar daflen Gweithgaredd 1.1 [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] a roddwyd i chi. Byddwn yn dychwelyd i'r gweithgaredd hwn yn Sesiwn 5 felly efallai y byddwch am gadw copi o'ch tabl.
NEU
Agorwch eich Cofnod Myfyrio
ac ewch i Weithgaredd 1.1. Pan fyddwch wedi cwblhau'r gweithgaredd, gwnewch yn siŵr eich bod yn arbed y ddogfen eto.
Os ydych yn gweithio mewn grŵp ac yr hoffech rannu eich atebion, gwnewch hynny nawr
Gweithgaredd 1.2 Diffinio fy hun
Mae'r gweithgaredd hwn yn gofyn i chi feddwl am y rolau amrywiol sydd gennych yn eich bywyd a beth maent yn ei olygu.
Yn yr adran flaenorol, clywsom am brofiadau Christine o ofalu am ei mab, beth mae wedi'i ddysgu iddi a sut mae'n teimlo amdano. Edrychwch ar y rhestr o rolau sydd gan Christine yn ei bywyd bellach ac yna gwrandewch arni'n siarad amdanynt yn y clip sain.
Fy mhrif rolau mewn bywyd | Beth rwyf yn ei wneud |
|
|

Transcript
Mae'r enghraifft uchod yn dangos y rolau gwahanol sydd gennym mewn bywyd. Mae gan bob un ohonom lawer o rolau lle defnyddiwn amrywiaeth o sgiliau a galluoedd.
Meddyliwch am y cwestiynau canlynol:
- A oes gennych unrhyw beth yn gyffredin â Christine?
- A ydych wedi gorfod ymdopi â rhai o'r un anawsterau?
- A oes gennych nodau yr hoffech eu cyflawni?
Yn yr adran flaenorol gwnaethom hefyd ddarllen am Claire a'i rôl yn gofalu am ei mam a'i phartner. Edrychwch ar dabl Claire lle mae'n disgrifio'r amrywiaeth o rolau sydd ganddi a'r hyn mae'n ei wneud.
Fy mhrif rolau mewn bywyd | Beth rwy'n ei wneud |
|
|
Nawr diffiniwch eich hun ar hyn o bryd, a'r rolau rydych yn eu cyflawni, ar daflen Gweithgaredd 1.2
NEU
Agorwch eich cofnod myfyrio ac ewch i Weithgaredd 1.2. (Os gwnaethoch anghofio arbed eich Cofnod Myfyrio, gallwch agor dogfen newydd.) Pan fyddwch wedi cwblhau'r gweithgaredd, gwnewch yn siŵr eich bod yn arbed y ddogfen eto.
Os ydych yn gweithio mewn grŵp, efallai yr hoffech rannu eich atebion a thrafod eich rolau gyda'ch gilydd. Yn yr un modd, os ydych yn gweithio un i un gyda mentor, defnyddiwch yr amser hwn i weithio ar rai o'r syniadau uchod.