Sgiliau a rhinweddau gofalwyr
Dechreuwn drwy wylio Claire yn siarad am y sgiliau a'r rhinweddau y mae wedi'u datblygu fel gofalwr.
Download this video clip.Video player: cym_s3_claire_video.mp4


Transcript
Claire
Drwy fod yn ofalwr, dwi wedi dod yn fwy amyneddgar. Dwi'n datrys problemau ac yn fwy hyblyg. Dwi wedi gorfod bod yn fwy amyneddgar a dysgu i ddarllen rhwng y llinellau, yn enwedig gyda fy mam. O ran fy mhartner, mae'n wahanol iawn. Roedd hi'n anodd yn feddyliol i mi ofalu am fy mam ond mae'n fwy anodd yn gorfforol i mi ofalu amdano ef. Felly, mae'r sgiliau dwi wedi'u defnyddio ar ei gyfer ef yn wahanol, hynny yw, mwy o drefn. Dwi'n mynd ag ef i'w apwyntiadau ac yn trefnu iddo gael ei drosglwyddo...mae'n rhaid i mi fod yn gefnogol ac yn galonogol am ei fod e'n digalonni. Mae'n ei chael hi'n anodd ymdopi ac mae ei gyhyrau...mae'n cael diwrnodau pan maent yn wannach ac mae'n cynhyrfu, ac felly dwi wedi gorfod dod yn fwy...dwi wedi dod yn fwy cadarnhaol a dwi'n ceisio dweud wrtho "wel, edrych beth sydd gennyt".
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).
Defnyddiodd Claire rai o'r geiriau a'r ymadroddion allweddol canlynol i ddisgrifio'r sgiliau a'r rhinweddau y mae wedi'u datblygu wrth ofalu:
- deall, addasu, datrys problemau, darllen rhwng y llinellau, cefnogol, cadarnhaol
Beth yw eich barn chi am sylwadau Claire? A dybiwch fod gennych chi rai o'r sgiliau a'r rhinweddau hyn?