Crynodeb
Nod y sesiwn hon oedd eich cael i feddwl am sut mae eich profiadau, gan gynnwys y rhai rydych wedi'u cael fel gofalwr, wedi eich helpu i ddatblygu sgiliau a rhinweddau.
A ydych wedi gallu adnabod y sgiliau a'r galluoedd rydych wedi'u datblygu fel gofalwr? A ydych yn rhannu'r rhai a danlinellwyd gan y gofalwyr yn y sesiwn hon? A oes gennych rinweddau eraill y mae eich rôl ofalu wedi eich helpu i'w datblygu?
Yn y sesiwn nesaf, byddwch yn ystyried sut y gallai'r sgiliau, y rhinweddau a'r galluoedd hyn fod yn berthnasol i'ch nodau yn y dyfodol - datblygiad personol, astudiaethau neu yrfa.
Sesiwn 4: Egluro fy nodau a chynllunio ar gyfer y dyfodol [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]