Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Beth amdana i? Cwrs datblygiad personol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru
Beth amdana i? Cwrs datblygiad personol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Sefydliadau cymorth i ofalwyr

Name of organisation Information Contact details
Ymddiriedolaeth y Gofalwyr ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru Cymorth ar-lein 24 awr y dydd; ble i ddod o hyd i'ch gwasanaethau gofalwyr lleol; help a chyngor penodol gan gynnwys hawl i fudd-daliadau, asesu anghenion gofalwyr a llawer mwy.www.carers.org
Canolfannau a gwasanaethau gofalwyr lleol

Mae canolfannau gofalwyr yn elusennau annibynnol sy'n darparu ystod eang o wasanaethau cymorth lleol sy'n diwallu anghenion gofalwyr yn eu cymunedau eu hunain. Mae pob canolfan gofalwyr yn darparu'r gwasanaethau craidd canlynol, naill ai dros y ffôn neu mewn cyngorfeydd galw heibio neu allgymorth:

  • cymorth emosiynol
  • gwybodaeth a chyngor;
  • llais gofalwyr.

I ddod o hyd i'ch canolfan gofalwyr leol ewch i:

www.carers.org

Cynlluniau Gofal Croesffyrdd Mae cynlluniau Gofal Croesffyrdd yn rhwydwaith o elusennau annibynnol lleol sy'n darparu gwasanaethau seibiant yn y cartref gan alluogi gofalwyr i gymryd seibiant. Gellir eu darparu naill ai fel rhan o becyn gofal wedi'i ariannu gan yr awdurdod lleol neu telir amdanynt yn breifat.

I ddod o hyd i'ch cynllun Gofal Croesffyrdd agosaf ewch i:

www.carers.org

 

Beth mae eich Bwrdd Iechyd Lleol a'ch Awdurdod Lleol yn ei gynnig i ofalwyr

Byrddau Iechyd Lleol yng NghymruO dan Fesur Strategaeth Gofalwyr (Cymru) 2010 mae'n ofynnol i bob Bwrdd Iechyd gyhoeddi a gweithredu Strategaeth Ymgynghori a Gwybodaeth Gofalwyr leol sy'n hysbysu gofalwyr am y wybodaeth a'r cymorth y mae ganddynt hawl i'w cael er mwyn eu helpu i gyflawni eu rôl ofalu.

Er mwyn gweld beth mae eich Bwrdd Iechyd Lleol yn ei wneud, ewch i wefan 'GIG Cymru' a theipiwch 'gofalwyr' neu 'carers' yn y bar chwilio:

www.wales.nhs.uk/

 
Cymorth a ddarperir gan eich Awdurdod LleolHefyd, bydd gan eich Awdurdod Lleol fanylion am gymorth i ofalwyr a'r hyn a ddarperir ganddynt.

Rhestrir pob un yn y ddolen isod. Cliciwch ar eich rhanbarth a theipiwch 'gofalwyr' neu 'carers' yn y peiriant chwilio.

http://gov.wales/topics/localgovernment/unitary-authorities/?skip=1&lang=cy

Canolfannau Cyngor ar Bopeth Cyngor am ddim ar ystod eang o faterion - yn agored i bawb yng Nghymru a ledled y DU.

https://www.citizensadvice.org.uk/ cymraeg/