Cyfleoedd addysg a hyfforddiant
Mae llawer o gyfleoedd ar gael i ddatblygu eich dysgu, naill ai'n anffurfiol gydag adnoddau ar-lein am ddim, fel y cwrs hwn neu drwy gyrsiau lleol a sesiynau rhagflas a all gael eu rhedeg drwy eich canolfan gofalwyr leol neu ddarparwr addysg i oedolion. Mae colegau lleol hefyd yn cynnig rhaglen o ddosbarthiadau addysg i oedolion.
OpenLearn (Y Brifysgol Agored) | Gwefan â 10,000 awr o gynnwys dysgu am ddim sy'n cynnwys clipiau fideo a sain a chyrsiau byr. | www.open.edu/ openlearn | |||
OpenLearn Cymru (Y Brifysgol Agored yng Nghymru) | Gwefan ddwyieithog sy'n cynnwys cyrsiau am ddim yn Gymraeg ac yn Saesneg gan gynnwys y cwrs Beth amdana i?. | www.open.edu/ openlearncymru | |||
FutureLearn | Gwefan ag amrywiaeth o gyrsiau a gynigir am ddim gan wahanol brifysgolion. | www.futurelearn.com | |||
BBC Skillswise | Gwefan am ddim sydd â chyrsiau a gweithgareddau i wella eich sgiliau ysgrifennu, mathemateg a TG. | www.bbc.co.uk/ skillswise | |||
Cymdeithas Addysg y Gweithwyr Cymru | Darparwr mwyaf dysgu oedolion yn y gymuned yng Nghymru. Yn darparu cyrsiau mewn lleoliadau cymunedol lleol. | www.weacymru.org.uk | |||
Colegau addysg bellach lleol | Mae llawer o golegau addysg bellach lleol yn cynnig cyrsiau dysgu yn y gymuned. | Mae'r wefan hon yn rhestru'r holl golegau yng Nghymru a thrwyddi gallwch fynd i'w gwefannau. Mae'r colegau yn y Gogledd a'r Canolbarth yn cwmpasu ardaloedd mawr ac mae ganddynt lawer o ganolfannau lleol | |||
Learn Direct Wales / Cymru | Amrywiaeth o gyrsiau ar-lein y mae rhai ohonynt am ddim | http://www.learndirect.co.uk/ wales-cym/ | |||
Gwybodaeth gyffredinol am astudiaethau prifysgol ac addysg uwch | |||||
---|---|---|---|---|---|
UCAS | Gwybodaeth gyffredinol am astudiaethau prifysgol ac addysg uwch. Er bod hon yn wefan ddefnyddiol mae'n ymdrin ag astudiaethau addysg uwch llawn-amser. Os hoffech astudio'n rhan-amser mewn prifysgol, dylech gysylltu â'r brifysgol benodol yn uniongyrchol. | www.ucas.com | |||
Astudio'n ffurfiol gyda'r Brifysgol Agored Gallwch astudio ar lefel israddedig ac ôl-raddedig gyda'r Brifysgol Agored. Hefyd, cynigiwn gyrsiau Mynediad i ddysgwyr sydd am feithrin eu hyder a'u sgiliau cyn iddynt ddechrau dilyn cwrs israddedig. Mae astudiaethau'r Brifysgol Agored yn rhan-amser ac yn hyblyg felly gallant weddu i'ch rôl gofalu a'ch cyfrifoldebau eraill. Gall myfyrwyr hefyd gymryd saib rhwng modiwlau ac ennill cymhwyster ar eu cyflymdra eu hunain. | |||||
Y Brifysgol Agored | Dyma brif wefan Y Brifysgol Agored. Edrychwch ar ein cyrsiau a'n cymwysterau, cyllid a chymorth ariannol a sut brofiad yw astudio gyda'r Brifysgol Agored. | Cyswllt: 029 2047 1170 E-bost: Wales@open.ac.uk | |||
Gwasanaeth Cyngor Gyrfaoedd Y Brifysgol Agored | Mae hon yn wefan ddefnyddiol o ran gyrfaoedd posibl sy'n gysylltiedig â chyrsiau a chymwysterau'r Brifysgol Agored. | www.open.ac.uk/ careers | |||
Gwybodaeth gyrfaoedd | |||||
Gyrfa Cymru | Gwefan gynhwysfawr ar yrfaoedd i bobl sy'n byw yng Nghymru. Mae'n addas i bob oedran a gallu ac mae'n cynnwys gwybodaeth am swyddi, cyrsiau, prentisiaethau. Mae'n safle rhyngweithiol dwyieithog sy'n cynnwys gwybodaeth benodol sy'n berthnasol i yrfaoedd a chyfleoedd yng Nghymru. | http://www.careerswales.com/ cy/ | |||
Directgov: Gwasanaeth gyrfaoedd cenedlaethol | Gwefan ar gyfer y DU gyfan sy'n cynnig gwybodaeth a chymorth gyda gyrfaoedd. Mae'n cynnig:
| https://nationalcareersservice.direct.gov.uk/ Pages/ Home.aspx | |||
Directgov: addysg a dysgu | Tudalennau gwe helaeth sy'n cwmpasu:
| Directgov: addysg a dysgu | |||
Cyfleoedd gwirfoddoli | |||||
Gwirfoddoli Cymru | Y brif wefan sy'n rhestru cyfleoedd gwirfoddol ledled Cymru. | www.volunteering-wales.net |