Beth sydd yn y cwrs a sut mae ei ddefnyddio?

Mae Beth amdana i? yn cynnwys cymysgedd o fyfyrdod personol, syniadau am sut rydym yn dysgu o fyfyrio a gweithgareddau i chi roi cynnig arnynt eich hun.
Mae'n cynnwys astudiaethau achos o ofalwyr â llawer o wahanol brofiadau o gyflogaeth, addysg a gofalu. Mae'r astudiaethau achos hyn yn tynnu sylw at amrywiaeth o deithiau personol ac yn ystyried yr amgylchiadau a'r problemau a wynebir o ganlyniad i'w rôl ofalu.
Ceir pum sesiwn o fewn y cwrs sy'n cynnwys amrywiaeth o weithgareddau i'ch helpu i fyfyrio ar y canlynol:
- Sesiwn 1: Diffinio fy hun a'r ffordd rwy'n teimlo am fy sefyllfa bresennol [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]
- Sesiwn 2: Dysgu drwy edrych ar fy mywyd dros amser
- Sesiwn 3: Nodi fy sgiliau, rhinweddau a galluoedd
- Sesiwn 4: Egluro fy nodau a chynllunio ar gyfer y dyfodol
- Sesiwn 5: Nodi fy nghamau nesaf a ble y gallaf ddod o hyd i wybodaeth a chymorth
Ym mhob un o'r pum sesiwn, fe'ch gwahoddir i gymharu eich profiadau chi â'r rhai a ddangosir a rhoi cynnig ar y tasgau unigol. Bydd pob adran yn cymryd tua awr i'w chwblhau.
Hefyd, ceir adran Rhagor o wybodaeth ar ddiwedd y cwrs, sydd â dolenni gwybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer rhagor o adnoddau a chymorth.