Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Beth amdana i? Cwrs datblygiad personol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru
Beth amdana i? Cwrs datblygiad personol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Sesiwn 1: Diffinio fy hun a'r ffordd rwy'n teimlo am fy sefyllfa bresennol

Beth yw myfyrdod?

Ffigur 1.1

Mae a wnelo myfyrdod â meddwl a deall - ystyried ac archwilio'n onest ein profiadau blaenorol. Meddwl am bethau rydych wedi'u gwneud a'u profi yn eich bywyd, a gweithio allan beth rydych wedi'i ddysgu er mwyn i chi ddeall yn well y person rydych chi nawr, eich rhinweddau, beth sydd o fewn eich gallu a beth yr hoffech ei wneud. Gall meddwl fel hyn fod o fudd i unrhyw un, ar unrhyw adeg o fywyd, pwy bynnag ydych a pha bynnag sefyllfa rydych ynddi.

Gall cwmpas eich myfyrdod amrywio. Er enghraifft, efallai y byddwch am fyfyrio ar yr hyn rydych wedi'i ddysgu o leoliad gwaith diweddar, cyfrifoldebau gofalu neu brofiad astudio, neu efallai eich bod am gael trosolwg o'ch bywyd yn gyffredinol.

Gall myfyrdod fod yn anghysurus, yn dibynnu ar brofiadau blaenorol, ond gall hefyd fod yn rhyddhaol wrth i ni feithrin gwell dealltwriaeth ohonom ni'n hunain a'n sefyllfa, ac wedyn gallwn symud ymlaen.

Os byddwch, ar unrhyw adeg, yn teimlo bod y cwrs wedi esgor ar emosiynau anodd yna gallwch ymweld â Carers.org [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] i ddod o hyd i'ch gwasanaeth cymorth lleol agosaf neu siarad â rhywun ar-lein. Hefyd, ceir cysylltiadau defnyddiol yn yr adran Rhagor o wybodaeth o'r cwrs hwn.