Mae'r ddadl hon yn ddelfrydol i'r rhai sy'n chwilfrydig ynglŷn â ph'un a ydym ar ein pen ein hunain yn y bydysawd ai peidio, i'r rhai sy'n astudio gwyddoniaeth ar lefel Safon Uwch neu yn y brifysgol, neu i unrhyw rai sydd â diddordeb mewn gwyddoniaeth.
Cynhaliwyd y ddadl ddydd Iau 25 Tachwedd 2021 fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau SgyrsiauAgored a gynhelir gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru. Darllenwch fwy isod am arbenigwyr y Brifysgol Agored a gymerodd ran.
Tîm Y Lleuadau Rhewllyd
![]() |
Yr Athro Karen-Olsson-Francis Microbiolegydd yw Karen ac mae ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar fywyd ar yr eithafion. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn micro-organebau sy'n byw mewn amgylcheddau eithafol, gan gynnwys yr Orsaf Ofod Ryngwladol, ac amgylcheddau daearol sy'n analogau ar gyfer lleoliadau allfydol. |
![]() |
Dr. Mark Fox Powell Geocemegydd planedau yw Mark ac mae ei waith ymchwil yn canolbwyntio ar gefnforoedd y lleuadau rhewllyd ar gyrion cysawd yr haul, fel Europa a Ganymede (lleuadau Iau) ac Enceladus a Titan (Sadwrn), sef amgylcheddau a all gynnal bywyd heddiw o bosibl. Mae'n gwneud gwaith labordy a gwaith maes er mwyn ceisio gweld sut y gall cemeg forol a micro-organebau gael eu trosglwyddo o'r cefnforoedd i'r arwyneb rhewllyd. |
Tîm Mawrth
![]() |
Dr. Susanne P. Schwenzer Mwynolegydd yw Susanne, ac mae'n astudio rhyngweithiadau creigiau anweddol gan gynnwys nwyon nobl, methan ac adweithiadau rhwng dŵr a chreigiau. Prif darged ei gwaith ymchwil yw Mawrth, ac mae'n aelod o dîm Gwyddor Labordy Mawrth NASA. |
![]() |
Dr. Peter Fawdon Daearegydd planedau yw Peter ac mae'n defnyddio technegau synhwyro o bell a GIS i archwilio arwynebau planedau. Mae ei waith yn cynnwys ymchwilio i gyd-destun daearegol lleoedd ar y blaned Mawrth sydd fwyaf tebygol o fod wedi gallu cynnal bywyd yn y gorffennol pell. Mae'n arwain gwaith nodweddu daearegol ar Oxia Planum, sef safle glanio cerbyd fforio ExoMars 2022. |
Cadeirydd y ddadl
![]() |
Dr. Victoria Pearson Gwyddonydd planedau yw Vic. Mae ganddi ddiddordeb arbennig yn nharddiad moleciwlau organig yn y gofod, a'u rôl yn nharddiad bywyd ar y Ddaear a chyrff planedol eraill. Mae hyn yn cynnwys meteorynnau, asteroidau a lleuadau rhewllyd ar gyrion cysawd yr haul. |
Mwy o wybodaeth am AstrobiologyOU
Grŵp ymchwil amlddisgyblaethol yn Y Brifysgol Agored yw AstrobiologyOU. Mae'r grŵp yn cydweithio i fynd i'r afael â heriau gwyddonol, heriau ym maes llywodraethu a heriau moesegol sy'n gysylltiedig â datblygu astrobioleg a theithiau cysylltiedig i archwilio'r gofod; gan sicrhau manteision cymdeithasol a chynaliadwyedd ar yr un pryd.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y grŵp ymchwil yma.
Dysgwch fwy gydag OpenLearn
Cyfres o ddigwyddiadau a gynhelir gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru yw SgyrsiauAgored. Nod SgyrsiauAgored yw ennyn diddordeb y cyhoedd yn ymchwil Y Brifysgol Agored a gwneud gwaith academyddion yn ysbrydoledig ac yn hygyrch i gymunedau yng Nghymru. Mae hyn yn cefnogi nodau'r sefydliad o wneud addysg yn agored i bawb ac mae'n cefnogi gwaith ehangach Y Brifysgol Agored i greu Cymru wybodus, ymgysylltiol a ffyniannus.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein digwyddiadau SgyrsiauAgored sydd ar ddod, gallwch ymuno â'n rhestr bostio neu ein dilyn ar Facebook, Twitter neu LinkedIn.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr fideo hon
Adolygwch yr fideo hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.