Yn y Sgwrs Agored hwn, siaradodd Uwch-ddarlithydd Y Brifysgol Agored mewn Gwleidyddiaeth, Dr Geoff Andrews, â Dr Daryl Leeworthy o Brifysgol Abertawe am fywyd Cyril Lakin – golygydd papur newydd, darlledwr ac Aelod Seneddol o Gymru.
Cynhaliwyd y digwyddiad gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru i ddathlu lansiad llyfr newydd: Smooth Operator, the Life and Times of Cyril Lakin, Editor, Broadcaster and Politician wedi’i ysgrifennu gan Dr Geoff Andrews, Uwch Ddarlithydd mewn Gwleidyddiaeth, y Brifysgol Agored. Mae’r llyfr hwn wedi’i gyhoeddi gan Parthian yn eu cyfres Modern Wales.
Wedi’i fagu o wreiddiau syml yn y Barri yn ystod cyfnod ei drawsnewidiad yn dref porthladd wedi’i adeiladu ar lan y môr, roedd datblygiad Lakin yn bosibl diolch i gefnogaeth barwniaid y wasg Gymreig, yr Arglwyddi Camrose a Kemsley. Roedd gan y ffigyrau hyn mor rymus â Beaverbrook a Rothermere yn y cyfnod rhwng y rhyfel tra'u bod hefyd wrth wraidd y ddadl ddyhuddi hollbwysig, yn cynnwys Lakin mewn cyfarfod annoeth gyda Hitler. Gan ddychwelyd i'r Barri fel ei Aelod Seneddol yn 1942, adnewyddodd Lakin ei gysylltiadau â'i dref enedigol wrth barhau i weithio fel darlledwr. Roedd yn byw ei fywyd ar draws gwahanol fydoedd, o Gymru i San Steffan, ac ar draws newyddiaduraeth, y BBC, a gwleidyddiaeth.
Cynhaliwyd y digwyddiad hwn ddydd Iau, 21 Hydref 2021. Gwyliwch y drafodaeth isod:
Mae Dr Geoff Andrews yn hanesydd ac yn uwch ddarlithydd yn adran wleidyddiaeth y Brifysgol Agored. Ei arbenigedd yw hanes mudiadau a safbwyntiau gwleidyddol. Mae ei lyfrau blaenorol yn cynnwys bywgraffiadau James Klugmann a John Cairncross.
Dr Daryl Leeworthy yw Cymrawd Ymchwil Ymddiriedolaeth Rhys Davies ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd ei fywgraffiad am fywyd yr awdur a’r darlledwr Gwyn Thomas yn cael ei gyhoedd y flwyddyn nesaf yng Nghyfres Modern Wales Parthian.
Mwy am Cyril Lakin
Cyfres o ddigwyddiadau a gynhelir gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru yw SgyrsiauAgored. Nod SgyrsiauAgored yw ennyn diddordeb y cyhoedd yn ymchwil Y Brifysgol Agored a gwneud gwaith academyddion yn ysbrydoledig ac yn hygyrch i gymunedau yng Nghymru. Mae hyn yn cefnogi nodau'r sefydliad o wneud addysg yn agored i bawb ac mae'n cefnogi gwaith ehangach Y Brifysgol Agored i greu Cymru wybodus, ymgysylltiol a ffyniannus.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein digwyddiadau SgyrsiauAgored sydd ar ddod, gallwch ymuno â'n rhestr bostio neu ein dilyn ar Facebook, Twitter neu LinkedIn.
Darganfod mwy ar OpenLearn
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr fideo hon
Adolygwch yr fideo hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Fideo hon