- Cynnwys strwythuredig
Croeso
Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad byr i faes gweithio mewn tîm. Gallwch hefyd weld y cyrsiau eraill yn y casgliad hwn: Cyflwyniad i arweinyddiaeth i lywodraethwyr ac Addysg gynhwysol: deall yr hyn a olygwn.
Mae gwaith tîm yn rhan hollbwysig o’r gwaith o ddatblygu a chynnal corff llywodraethu llwyddiannus. Mae’r cwrs hwn yn gyfle i chi fyfyrio ar eich profiadau eich hun o weithio mewn tîm, ystyried enghreifftiau o waith tîm mewn ysgolion, a myfyrio ar bwysigrwydd gweithio mewn tîm ac arweinyddiaeth wrth adeiladu timau llwyddiannus. Yn ystod y cwrs, byddwch yn archwilio perthnasedd gweithio mewn tîm i’ch profiad fel llywodraethwr a’i swyddogaeth yn eich corff llywodraethu eich hun.
Mae’r Cwrs Agored Bathodyn hwn yn rhan o gasgliad o adnoddau hyfforddiant ar gyfer llywodraethwyr ysgol yng Nghymru. Datblygwyd y casgliad gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru gyda’r nod o ddatblygu amrywiaeth o sgiliau a myfyrdodau ychwanegol a all eich helpu yn eich rôl fel llywodraethwr.