2 ‘Partneriaeth â rhieni a gofalwyr’?

Mae rhieni a gofalwyr yn chwarae rôl bwysig yn addysg eu plentyn. Mae ysgolion yn gweithio'n agos gyda rhieni a gofalwyr mewn perthynas â llesiant, datblygiad ac addysg pob plentyn sy'n mynychu eu hysgol. Datblygwyd yr ymadrodd 'partneriaeth â rhieni a gofalwyr' er mwyn adlewyrchu'r gydberthynas agos honno a'r cyfraniad y mae pob un ohonynt yn ei wneud at ddatblygiad ac addysg plentyn. Mae'r bartneriaeth o bwysigrwydd arbennig mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.

Ond beth yw partneriaeth? Mae'r term yn cael ei ddefnyddio bob dydd. Ar ei ffurf symlaf, mae partneriaeth yn golygu dau neu fwy o bobl (neu sefydliadau) yn cydweithio tuag at nod cyffredin. Gall y nodau hyn fod yn rhai hirdymor neu fyrdymor. Mewn gwirionedd, tîm yw partneriaeth, fel y'i diffinnir yn Adran 1.

Ym myd addysg, mae'r syniad o bartneriaeth rhwng rhieni neu ofalwyr ac ymarferwyr (a ddefnyddir yma i gyfeirio at y rheini a gyflogir fel staff addysgu yn yr ysgol) wedi bodoli ers nifer o flynyddoedd. Ar ddiwedd y 1970au, adolygodd adroddiad Warnock y ddarpariaeth ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig yng Nghymru a Lloegr. Roedd yr adroddiad yn cynnwys pennod ddylanwadol sy'n dwyn y teitl ‘Parents as partners’ (CEEHCYP, 1978).

Ffigur 3 Dyfyniad o dudalen gynnwys Adroddiad Warnock.

Mae cryn dipyn o dystiolaeth wedi'i chasglu o arsylwadau ac astudiaethau academaidd o ran gwerth partneriaeth o'r fath. Fodd bynnag, nid yw'n syniad syml: gall heriau godi pan fydd ymarferwyr a rhieni neu ofalwyr yn ceisio cydweithio'n agos er budd llesiant, datblygiad a dysgu plentyn. Yn benodol, gall rhai rhieni a gofalwyr fod yn betrusgar ynglŷn â dod yn bartneriaid; mae'n bosibl bod rhai eraill wedi cael profiadau cadarnhaol a negyddol o'r amgylchedd ysgol.

2.1 Meddwl am 'weithio mewn partneriaeth’