2.2.2 Mae rhieni a gofalwyr yn rhoi cymorth ‘cefndir’ i ymarferwyr
Mae llawer o rieni a gofalwyr yn ymgymryd â rôl addysgu drwy siarad, chwarae, darllen a chanu gyda'u plant. I lawer o rieni a gofalwyr, dim ond rhan o'r profiad addysgol y maent yn ceisio ei gynnig i'w plant yw eu cydberthynas ag ymarferwyr ac asiantaethau eraill sy'n canolbwyntio ar y plentyn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn annog rôl rhiant a gofalwr 'gefndir' ar bob cam o addysg plentyn. Mae syniadau a gwybodaeth wedi'u datblygu a'u cyhoeddi'n eang: er enghraifft, roedd gan ymgyrch 'Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref' ffrwd Twitter [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] a thudalen Facebook er mwyn annog rhieni a gofalwyr i gyfrannu at addysg eu plentyn.
Mae mentrau a arweinir gan y Llywodraeth yn bwysig o ran helpu rhieni a gofalwyr i deimlo y gallant fod yn rhan o ddysgu ffurfiol eu plentyn. Mae'r adnoddau hefyd yn darparu gwybodaeth, syniadau ac anogaeth er mwyn galluogi rhieni a gofalwyr i fod yn llai dibynnol ar leoliadau blynyddol cynnar ac ysgolion.
Dylech nawr roi cynnig ar Weithgaredd 5, sy'n cynnig cyfle i archwilio a myfyrio ar y rôl y mae rhieni a gofalwyr yn ei chwarae fel 'addysgwyr'.
Gweithgaredd 5: Rhieni a gofalwyr fel addysgwyr
Treuliwch ychydig funudau yn darllen erthygl gan Owen Hathway (bydd angen i chi sgrolio i lawr ar ôl clicio ar y ddolen), ac yna myfyriwch ar ei pherthnasedd i chi fel llywodraethwr. Efallai y byddwch yn dewis gwneud nodyn o'r pwyntiau allweddol.
Cofnodwch eich meddyliau mewn blog ar wefan y cwrs.
Sylw
Mae'r gweithgaredd hwn yn gyfle i chi fyfyrio ar y rôl y mae rhiant/gofalwr yn ei chwarae yn addysg ei blentyn. Mae Owen Hathway yn swyddog polisi ac mae'r erthygl yn cynrychioli ei farn. Caiff ei gyflogi gan Undeb Cenedlaethol yr Athrawon.
Mae'r awdur yn nodi bod angen cynnwys rhieni, gofalwyr a'r gymuned ehangach er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn gallu gwireddu ei botensial llawn. Mae hyn yn adlewyrchu'r syniad bod angen addysg 'ffurfiol' ac 'anffurfiol' er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn gwireddu ei botensial. Mae gan ysgolion, rhieni, gofalwyr a'r gymuned oll rôl i'w chwarae. Cyflawnir y dasg drwy waith tîm a phartneriaeth. Bydd y timau a'r partneriaethau hynny yn amrywio o ran maint a hyd, ond mae gan bob corff llywodraethu rôl i'w chwarae ynddynt.
2.2.1 Mae rhieni a gofalwyr yn addysgwyr