3.1 Cydnabod mai unigolion yw rhieni a gofalwyr

Caiff plant eu hystyried yn unigolion a dylid mabwysiadu'r un ymagwedd at eu rhieni a'u gofalwyr. Fodd bynnag, gan fod y rhan fwyaf o rieni a gofalwyr wedi ymddieithrio'n fwy na phlant, gellir gwneud datganiadau cyffredinol am rieni, er enghraifft 'Mae ein rhieni a'n gofalwyr yn gefnogol', 'Mae ein rhieni a'n gofalwyr yn gallu bod yn anodd', neu 'Nid yw ein rhieni a'n gofalwyr yn dda am godi arian'.

Lluniodd Carol Vincent (1996) ddosbarthiad pedair ffordd o safbwyntiau rhieni mewn perthynas ag ymarferwyr. Nododd bedwar 'math' sylfaenol o rieni a gofalwyr. Cliciwch ar bob un ohonynt i gael rhagor o fanylion:

Active content not displayed. This content requires JavaScript to be enabled.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Weithiau gall dosbarthiadau o'r fath gefnogi neu fireinio ein syniadau, ond gallant hefyd leihau neu dangynrychioli realiti. Un anhawster mawr i nifer o ymarferwyr yw'r cyswllt cyfyngedig sydd ganddynt â'r rhan fwyaf o rieni a gofalwyr. Mae ymarferwyr yn treulio llawer o amser gyda phlant ond ychydig iawn o amser gyda rhieni a gofalwyr, oni bai bod y rhieni neu'r gofalwyr yn cymryd rhan yn y lleoliad fel gwirfoddolwyr neu weithwyr cyflogedig, neu os mai nhw yw'r ymarferwyr (er enghraifft mewn grŵp chwarae). Heb wybodaeth fanwl, mae'n hawdd gwneud tybiaethau, sy'n arwain at ystrydebau anghywir am rieni a gofalwyr. Mae llywodraethwyr, oni bai eu bod yn rhiant-lywodraethwr, yn treulio hyd yn oed llai o amser gyda rhieni a gofalwyr.

Mae amser yn brin i lawer o rieni a gofalwyr plant ifanc, a all egluro pam y mae llawer ohonynt yn ymddangos fel pe bai ganddynt lai o ddiddordeb nag a all fod yn wir. Mae'n hollbwysig peidio â labelu rhieni a gofalwyr yn 'wael' os byddant yn dewis peidio â gweithio mewn partneriaeth agos â'r lleoliad. Mae'n hawdd gwneud tybiaethau sy'n arwain at ystrydebau anghywir am rieni a gofalwyr, neu, yn yr un modd, gamsyniadau am ymarferwyr. Mae rhieni sydd 'wedi datgysylltu' ac 'annibynnol' Carol Vincent yn ein hatgoffa am y rhesymau pam y mae rhai rhieni a gofalwyr yn dewis peidio â bod yn rhan o ddysgu eu plant.

3.2 Deall pam y mae rhai rhieni a gofalwyr yn penderfynu peidio â bod yn 'bartneriaid'