3.2 Deall pam y mae rhai rhieni a gofalwyr yn penderfynu peidio â bod yn 'bartneriaid'

Mae partneriaeth rhwng rhieni ac ymarferwyr yn cynnwys pennu disgwyliadau'r bartneriaeth mewn modd sensitif, a gwrando ar safbwyntiau, ymatebion a dymuniadau'r rhieni a gofalwyr. Ond beth allai fod yn sail i ddiffyg awydd ymddangosiadol rhieni a gofalwyr i gydweithio ag ymarferwyr? Mae Gweithgaredd 7 yn gofyn i chi feddwl am hyn mewn rhagor o fanylder.

Gweithgaredd 7: Rhesymau dros ddiffyg diddordeb

Timing: Caniatewch 10 munud

Ar sail yr hyn rydych wedi'i ddysgu ar y cwrs hwn a'ch profiad fel llywodraethwyr, nodwch bum rheswm pam nad yw rhiant neu ofalwr o bosibl yn gallu ymgysylltu'n llawn ag ymarferwyr a chymuned yr ysgol.

Cofnodwch eich meddyliau mewn blog ar wefan y cwrs. [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]

Sylw

Mae yna nifer o resymau pam nad yw rhiant neu ofalwr o bosibl yn ymgysylltu ag ymarferwyr neu gymuned yr ysgol. Bydd gan bob rhiant/gofalwr ei amgylchiadau a'i resymau unigol ei hun. Nid yw'r rhestr ganlynol yn hollgynhwysfawr; gall eich rhestr chi gynnwys pwyntiau ychwanegol, neu bwyntiau sy'n benodol i'ch ysgol:

  • ymrwymiadau gwaith trwm a heriol
  • pwysau teuluol
  • anawsterau o ran gofal plant
  • ymrwymiadau gofal
  • cost trafnidiaeth neu ddiffyg trafnidiaeth
  • ofn athrawon ac ysgolion
  • ansicrwydd ynglŷn â'r rheswm dros y gwahoddiad
  • ni chyrhaeddodd y llythyr gwahodd y cartref
  • methu â darllen iaith ysgrifenedig y llythyr
  • iaith y llythyr yn rhy 'ffurfiol' ac anodd ei deall
  • rhybudd annigonol am y cyfarfod
  • ofn 'awdurdod'
  • y disgwyliad na fydd unrhyw ateb i broblemau penodol
  • diffyg hyder wrth siarad Cymraeg neu Saesneg
  • cyfyngiadau amser oherwydd ymrwymiadau gwaith a theulu
  • dim mynediad at y rhyngrwyd
  • rhesymau iechyd
  • ddim yn adnabod neb a fydd yno
  • ansicrwydd ynglŷn â mynd allan ar ei ben ei hun ar ôl iddi nosi
  • casáu cyfarfodydd ffurfiol
  • ofn cael y dasg o wneud rhywbeth
  • ofn amgylchedd anghroesawgar
  • pryder am yr hyn a ddywedir am y plentyn
  • ofn cael ei ddwyn yn gyfrifol am ddiffyg cynnydd neu ymddygiad aflonyddgar y plentyn
  • diffyg llety parhaol
  • diffyg hunan-barch
  • diffyg hyder
  • ofn cael ei feirniadu
  • amharodrwydd i siarad yn gyhoeddus
  • ymrwymiadau blaenorol
  • diffyg hyder yng ngallu'r ysgol i ddatrys problem
  • gwrthdaro ag ymrwymiadau gwaith neu ymrwymiadau eraill
  • profiad negyddol blaenorol o leoliad ysgol.

Mae'n rhestr hir – ac ond yn darparu enghreifftiau yn unig o rai o'r rhesymau dros ddiffyg diddordeb neu fethiant i fynd i gyfarfodydd.

3.1 Cydnabod mai unigolion yw rhieni a gofalwyr

3.3 Gweithio gyda rhieni a gofalwyr 'heriol'