Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: dechrau yn y gweithle
Gweithio hybrid: dechrau yn y gweithle

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Gall dechrau mewn gweithle newydd – p'un ai dyna eich swydd gyntaf 'go iawn' ar ôl gorffen eich addysg, neu'r cam nesaf yn natblygiad eich gyrfa – fod yn gyffrous ac yn frawychus. Os mai sefydliad hybrid ydyw, a bod eich diwrnod cyntaf mewn lleoliad anghysbell yn hytrach na gweithle ffisegol, gall hynny fod hyd yn oed yn fwy dryslyd. Nod y cwrs hwn yw eich helpu i lywio eich diwylliant sefydliadol newydd, meithrin cydberthnasau gyda'ch cydweithwyr mewn amgylchedd hybrid, deall disgwyliadau eich cyflogwr a mynegi eich nodau i fodloni'r disgwyliadau hynny neu hyd yn oed ragori arnynt. Byddwch yn cael eich annog i fyfyrio ar eich sgiliau a'ch profiadau presennol – yn y gwaith a'r tu allan iddo – ac i ystyried sut y gellir addasu'r rhain a'u datblygu yn eich gweithle hybrid newydd. Bydd llawer ohonoch wedi arfer rhannu ac ymgysylltu â phobl eraill ar lwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol, felly sut gallwch drosi'r arferion hyn i gydweithio yn y gweithle? Ceir ffocws ar alluoedd digidol a magu hyder mewn technoleg, yn ogystal ag awgrymiadau ar reoli eich llesiant pan fyddwch yn gweithio o bell i'ch galluogi i ffynnu yn y gwaith.