Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
Cwrs am ddim

Gweithio hybrid: dechrau yn y gweithle

Datganiad cyfranogiad am ddim wrth i chi gwblhau
Gweithio hybrid: dechrau yn y gweithle
Gall dechrau mewn gweithle newydd – p'un ai dyna eich swydd gyntaf 'go iawn' ar ôl gorffen eich addysg, neu'r cam nesaf yn natblygiad eich gyrfa – fod yn gyffrous ac yn frawychus. Os mai sefydliad hybrid ydyw, a bod eich diwrnod cyntaf mewn lleoliad anghysbell yn hytrach na gweithle ffisegol, gall hynny fod hyd yn oed yn fwy dryslyd. Nod y cwrs hwn yw eich helpu i lywio eich diwylliant sefydliadol newydd, meithrin cydberthnasau gyda'ch cydweithwyr mewn amgylchedd hybrid, deall disgwyliadau eich cyflogwr a mynegi eich nodau i fodloni'r disgwyliadau hynny neu hyd yn oed ragori arnynt. Byddwch yn cael eich annog i fyfyrio ar eich sgiliau a'ch profiadau presennol – yn y gwaith a'r tu allan iddo – ac i ystyried sut y gellir addasu'r rhain a'u datblygu yn eich gweithle hybrid newydd. Bydd llawer ohonoch wedi arfer rhannu ac ymgysylltu â phobl eraill ar lwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol, felly sut gallwch drosi'r arferion hyn i gydweithio yn y gweithle? Ceir ffocws ar alluoedd digidol a magu hyder mewn technoleg, yn ogystal ag awgrymiadau ar reoli eich llesiant pan fyddwch yn gweithio o bell i'ch galluogi i ffynnu yn y gwaith.

Mae'r cwrs hwn yn rhan o'r casgliad Cefnogi gweithio hybrid a thrawsnewid digidol, a wnaed yn bosibl gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

HEFCW logo

Deilliannau dysgu'r cwrs

Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:

  • paratoi eich hun ar gyfer dod o hyd i swydd yn y gweithlu hybrid
  • paratoi ar gyfer eich diwrnod cyntaf yn y gweithle hybrid
  • deall yr hyn a ddisgwylir o safbwynt diwylliannol
  • cydnabod y sgiliau digidol y bydd eu hangen arnoch i weithio yn yr amgylchedd hybrid
  • cydweithio â phobl eraill yn y gweithle hybrid
  • rheoli eich lles a'ch unigrwydd
  • gwneud gwahaniaeth a chyfrannu ymhellach yn y gweithlu hybrid.

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/12/2022

Wedi'i ddiweddaru: 16/12/2022

Hepgor Graddau y Cwrs