Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol
Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Oherwydd pandemig COVID-19 yn 2020, bu rhaid i sefydliadau gynllunio ac addasu o fewn wythnos er mwyn symud eu gweithlu cyfan bron i weithio o bell, ac roedd yn rhaid i'r rheini a oedd yn gorfod aros 'ar y safle’ roi mesurau diogelwch ar waith yn gyflym. Roedd hwn yn ymateb byd-eang digynsail na fyddai llawer o sefydliadau wedi'u rhagweld a bu rhaid iddynt addasu eu dull cynllunio.

Ceir ansicrwydd yn gyson, ac er mwyn ffynnu, bydd angen i sefydliadau ac unigolion ddatblygu'r sgiliau ar gyfer y dyfodol a chynllunio ar gyfer rhagolygon, er mwyn cynllunio ar gyfer y diarwybod a'r hyn sy'n hysbys.

Mae'r cwrs yn eich cyflwyno i gynllunio ar gyfer y dyfodol ac at ragolygon ac yn archwilio fframweithiau gwahanol i ddatblygu eich sgiliau i gynllunio ar gyfer dyfodol ansicr ac yn ystyried sut y gallwch ddod yn sefydliad mwy cynaliadwy yn wyneb newid sy'n parhau ac esblygu disgwyliadau'r cyflogeion.